Tudalen blaen The Guardian o fis Hydref 2009. | |
Math | Papur dyddiol |
Fformat | Berliner |
Perchennog | Guardian Media Group |
Golygydd | Katharine Viner |
Sefydlwyd | 1821 |
Ymochredd gwleidyddol | Canol-chwith |
Iaith | Saesneg |
Pencadlys | Kings Place, 90 York Way, Llundain N1 9GU |
Cylchrediad | 226,473 |
Chwaer-bapurau newyddion |
The Observer, The Guardian Weekly |
ISSN | Nodyn:Dolen chwilio ISSN |
Rhif OCLC | 60623878 |
Gwefan swyddogol | (Saesneg) www.guardian.co.uk |
Cost | £1 |
Mae The Guardian yn bapur newydd cenedlaethol Prydeinig sy'n rhan o'r Guardian Media Group. Fe'i cyhoeddir yn ddyddiol o ddydd Llun i ddydd Sadwrn yn y fformat Berliner. Hyd at 1959 ei enw oedd The Manchester Guardian, yn adlewyrchu ei wreiddiau rhanbarthol; weithiau mae'r papur yn dal yn cael ei gyfeirio ato dan yr enw hwn, yn enwedig yng Ngogledd America, er ei fod wedi'i sefydlu yn Llundain ers 1964. (Mae gan y papur wasg argfraffu yn y ddwy ddinas).
Mae'r Guardian yn un o'r papurau newydd sy'n cydweithredu gyda WikiLeaks i gyhoeddi detholiadau o'r dogfennau cyfrinachol a gyhoeddir ar y wefan honno, yn cynnwys "Cablegate".
Ar bob diwrnod gwaith mae The Guardian yn gynnwys yr atodlen G2 sy'n cynnwys erthyglau, colofnau, amserlenni teledu a radio, a'r croesair cyflym. Ers newid i'r fformat Berliner, mae yna adran chwaraeon (Sport) dyddiol ar wahân. Mae atodlenni wythnosol eraill yn cynnwys:
Mae The Guardian yn hyrwyddo dwy wobr lenyddol fawr: y Guardian First Book Award, a sefydlodd yn 1999 fel olynydd i'r Guardian Fiction Award (a redodd ers 1965), a'r Guardian Children's Fiction Prize, a sefydlodd yn 1967. Ym mlynyddoedd diweddar mae'r papur hefyd wedi hyrwyddo Gŵyl y Gelli yn y Gelli Gandryll.