Theodore Roosevelt | |
---|---|
Llais | Theodore Roosevelt "The liberty of the people" speech.ogg |
Ganwyd | Theodore Roosevelt Jr. 27 Hydref 1858 Dinas Efrog Newydd, Efrog Newydd, Manhattan |
Bu farw | 6 Ionawr 1919 Sagamore Hill |
Man preswyl | Dinas Efrog Newydd, Oyster Bay, Washington, Sagamore Hill |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Addysg | Baglor yn y Celfyddydau |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | fforiwr, hanesydd, awdur ysgrifau, ysgrifennwr, gwleidydd, hunangofiannydd, ranshwr, naturiaethydd, gwladweinydd, cadwriaethydd, adaregydd, dyddiadurwr |
Swydd | Arlywydd yr Unol Daleithiau, Is-Arlywydd yr Unol Daleithiau, Governor of New York, Assistant Secretary of the Navy, Governor-General of the Philippines, member of the New York State Assembly |
Adnabyddus am | African game trails : an account of the African wanderings of an American hunter-naturalist, Hunting trips of a ranchman, sketches of sport on the northern cattle plains;, The wilderness hunter; an account of the big game of the United States and its chase with horse, hound, and rifle; |
Taldra | 179 centimetr |
Plaid Wleidyddol | plaid Weriniaethol, Progressive Party |
Tad | Theodore Roosevelt Sr. |
Mam | Martha Bulloch Roosevelt |
Priod | Alice Hathaway Lee Roosevelt, Edith Roosevelt |
Plant | Alice Lee Roosevelt, Theodore Roosevelt Jr., Kermit Roosevelt, Ethel Roosevelt Derby, Archibald Roosevelt, Quentin Roosevelt |
Llinach | Roosevelt family |
Gwobr/au | Gwobr Heddwch Nobel, Medal anrhydedd, Medal Canmlwyddiant David Livingstone, Honorary Doctorate from the National Autonomous University of Mexico, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Humboldt, Berlin, Honorary doctorate from the University of Cairo |
llofnod | |
Arlywydd yr Unol Daleithiau rhwng 14 Medi 1901 a 3 Mawrth 1909 oedd Theodore Roosevelt, Jr. (27 Hydref 1858 – 6 Ionawr 1919), neu T.R. neu Teddy.
Mae'r tegan meddal ar ffurf arth, y tedi bêr, yn tarddu o enw Theodore Roosevelt ym 1902.
Ganed Theodore Roosevelt Jr. ar 27 Hydref 1858 yn nhŷ rhif 28, East 20th Street, Dinas Efrog Newydd, yn fab i Theodore Roosevelt Sr. a Martha (Bulloch). Disgynnai'r teulu Roosevelt o Klaes Martenszen van Rosenvelt, a ymfudodd i Amsterdam Newydd ym 1649. Yr unig berthynas ar ochr ei dad nad oedd o dras Iseldiraidd oedd ei nain, a oedd yn Grynwraig o linach Gymreig, Seisnig, Gwyddelig, Sgot-Wyddelig, ac Almaenig. Ar ochr ei fam, disgynnai o fewnfudwyr Albanaidd a Hiwgenotiaid.
Teulu cefnog a gwaraidd oedd y Roosevelts, ac ymdrechodd Theodore yr hynaf a Martha i ddarparu addysg dda a phrofiadau diwylliedig i siapio meddwl a chymeriad eu plant. Ym 1869–70, aethant ar "Daith Fawr" i Ewrop, gan ymweld â Phrydain, Gwlad Belg, yr Iseldiroedd, yr Almaen, Ffrainc, y Swistir, yr Eidal, ac Awstria. Yn Rhufain, cyfarfu Theodore â'r Pab Pïws IX. Derbyniodd Theodore wersi gan diwtor preifat yn yr ieithoedd Ffrangeg, Almaeneg, a Lladin. Er yr oedd yn ddisgybl deallus, bachgen gwan oedd Theodore, ac ar anogaeth ei dad fe gychwynnodd ar raglen o addysg gorfforol er mwyn cryfhau ei gorff a gwella ei iechyd. Siapiodd ei gyhyrau gyda phwysau yn Wood's Gymnasium, ac yn 13 oed dechreuodd hyfforddi paffio. Yn Hydref 1872, dychwelodd y teulu i Ewrop, a theithiant hefyd i'r Aifft, Palesteina, Syria, Twrci, a Gwlad Groeg. Treuliant ddeufis yng ngaeaf 1872–73 yn hwylio ar hyd Afon Nîl ar gwch dahabeah. Penderfynodd y rhieni adael Theodore, ei frawd Elliott, a'i chwaer Corrinne yn Dresden am bum mis ym 1873 er mwyn astudio'r Almaeneg a'r Ffrangeg yn drylwyr, cyn iddynt ddychwelyd i'r Unol Daleithiau.
Cafodd ei diwtora ar gyfer arholiadau mynediad Prifysgol Harvard gan Arthur Cutler, a'i dderbyn i Harvard ym 1876. Yn y cyfnod hwn, symudodd y teulu i gartref newydd yn rhif 6 West 57th Street, gyda campfa ar y llawr uchaf ac amgueddfa yn y nenlofft er difyrrwch Theodore. Yn ystod ei flynyddoedd yn y brifysgol, bu Theodore yn ymwneud â nifer fawr o weithgareddau a diddordebau: cadwodd anifeiliaid yn ei ystafell a bu'n arfer dyrannu a thacsidermi; mynychodd sesiynau darllen barddoniaeth, gwersi dawnsio, perfformiadau prynhawn, partïon theatr a dawnsfeydd; parhaodd i baffio, ymgodymu, corfflunio, a hela yn ei amser rhydd; a gwirfoddolodd i fod yn athro ysgol Sul. Ymaelododd â nifer o gymdeithasau, gan gynnwys yr Hasty Pudding Club, un o brif gymdeithasau myfyrwyr Harvard; y clwb chwist; Cymdeithas Byd Natur Harvard; Clwb Adaregol Nuttall; y Clwb Arianneg; a'r Institute of 1770, cymdeithas siarad a oedd yn gysylltiedig â'r Hasty Pudding. Yn ei flwyddyn olaf, yn nhymor yr hydref 1878, cafodd ei dderbyn i'r Porcellian Club; wedi iddo or-yfed alcohol yn ystod ei ynydu, addawodd Roosevelt na fyddai byth eto yn meddwi, ac mae'n debyg iddo gadw'r adduned honno am weddill ei oes.