Cyfarwyddwr | Endaf Emlyn |
---|---|
Cynhyrchydd | Pauline Williams Uwch-gynhyrchydd: John Hefin |
Ysgrifennwr | Nofel: Caradog Prichard Sgript: Gwenlyn Parry Endaf Emlyn |
Serennu | Dyfan Roberts Tudur Roberts Betsan Llwyd Delyth Einir Cian Ciaran Dilwyn Vaughan Thomas Robin Griffith Stewart Jones Michael Povey Elliw Haf |
Cerddoriaeth | Mark Thomas |
Sinematograffeg | Ashley Rowe |
Golygydd | Joe Gall Jeffrey C. Patch |
Sain | Richard Dyer a Steve Howard |
Dylunio | Ray Price |
Cwmni cynhyrchu | Gaucho Cyf ar gyfer Ffilm Cymru ac S4C |
Amser rhedeg | 95 munud / 98 munud |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Ffilm yn y Gymraeg sy'n seiliedig ar y nofel enwog Un Nos Ola Leuad (1961), gan Caradog Prichard, yw Un Nos Ola Leuad. Fe'i cynhyrchwyd yn 1991 gan Cwmni Gaucho. Y cyfarwyddwr oedd Endaf Emlyn a ysgrifennodd y sgript hefyd, gyda Gwenlyn Parry. Mae'r ffilm yn serennu Dyfan Roberts a Tudor Roberts yn y brif ran (fel oedolyn a phlentyn), Betsan Llwyd fel y Fam, ac eraill.
Fel y nofel ei hun, lleolir digwyddiadau'r ffilm mewn pentref chwarel dychmygol yng ngogledd Cymru, sy'n amlwg yn cynrychioli Bethesda, Gwynedd, tref enedigol Caradog Prichard. Mae'n ffilm rymus sy'n ymwneud ag afiechyd meddwl, gwallgofrwydd, rhywioldeb ac emosiynau dwfn.
Mae wedi cael ei darlledu sawl gwaith ar S4C.
Fformat saethu: 35mm
Lliw: Lliw
Gwobrau:
Gŵyl ffilmiau | Blwyddyn | Gwobr | Derbynnydd |
---|---|---|---|
Gwyl Ffilmiau Celtaidd | 1992 | Ysbryd yr Ŵyl | |
BAFTA Cymru | 1992 | Sain Gorau | |
Goleuo Gorau | |||
Gwisgoedd Gorau | |||
Coluro Gorau | |||
Drama Orau | |||
Gŵyl Ffilm Troia | 1992 | Sgript Orau | |
Actores Orau | Betsan Llwyd | ||
Sinematograffi Gorau |