Union Cycliste Internationale

Logo'r UCI

Undeb seiclo proffesiynol ydy'r Union Cycliste Internationale (UCI) (Cymraeg: Undeb Seiclwyr Rhyngwladol), sy'n gorychwylio rasys seiclo yn y gymdeithas ryngwladol. Hi yw corff llywodraethu'r byd ar gyfer for rheolaeth y chwaraeon seiclo. Mae pencadlys yr UCI yn Aigle, Y Swistir.

Mae'r UCI yn dosbarthu trwyddedi rasio i reidwyr ac yn cadarnhau bod rheolau disgyblaethol yn cael eu dilyn, megis defnydd cyffuriau. Mae'r UCI hefyd yn rheoli dosbarthu rasys a graddfa safle bwyntiau mewn sawl disgyblaeth o seiclo gan gynnwys beicio mynydd, rasio seiclo ffordd a seiclo trac, ar gyfer dynion a merched, amatur a phroffesiynol. Mae hefyd yn gorychwylio Pencampwriaethau'r Byd – lle mae sawl gwlad yn cystadlu yn hytrach na thimau masnach – mewn amryw o ddosbarthiadau a chategoriau. Mae enillwyr y rasys hyn yn meddu'r hawl i wisgo crys enfys y flwyddyn ganlynol, a'r hawl i wisgo stribedi'r enfys ar goleri a chyffion eu crysau am weddill eu gyrfa.

Hanes

Sefydlwyd yr UCI ar 14 Ebrill 1900 ym Mharis gan gyrff llywodraethu cenedlaethol Gwlad Belg, Yr Unol Dalieithau, Ffrainc, Yr Eidal, a'r Swistir.

Yn 1965, o dan bwysau gan yr IOC (roedd y Gemau Olympaidd bryd hynny yn ddigwyddiad amatur), creodd yr UCI ddau is-gorff, Fédération Internationale Amateur de Cyclisme (FIAC) (Cymraeg: Ffederasiwn Seiclo Amatur Rhyngwladol) a Fédération Internationale de Cyclisme Professionnel (FICP) (Cymraeg: Ffederasiwn Seiclo Proffesiynol Rhyngwladol). Cymerodd yr UCI y rôl o weinyddu'r ddau gorff.

Lleolwyd yr FIAC yn Rhufain, a'r FICP yn Lwcsembwrg, a'r UCI yn Geneva.

Yr FIAC oedd y mwyaf o'r ddau gorff, gyda 127 ffederasiwn yn aelod ar draws pum cyfandir. Goruchafwyd hi gan wledydd y Bloc dwyreiniol a oedd yn gwbl amatur. Yr FIAC oedd yn trefnu cynyrchiolaeth seiclo yn y Gemau Olympaidd, ac yn anaml iawn bu seiclwyr yr FIAC yn cystadlu yn erbyn aelodau'r FICP.

Yn 1992, ail-gyfunwyd yr FIAC a'r FICP gan yr UCI, gan ddychwelyd yn rhan o'r UCI. Symudodd y corff newydd i Lausanne, yn agos i'r IOC.

Yn 2004, adeiladodd yr UCI velodrome newydd 200m yng nganolfan seiclo'r byd Archifwyd 2006-08-21 yn y Peiriant Wayback. newydd, gyferbyn a'u pencadlys.

Dadleuon

Mae'r UCI wedi ymwneud â sawl dadl yn gysylltiedig a'u penderfyniadau ynglŷn â chymhwyster beiciau. Yn arbennig, gwahardd recumbents ar 1 April 1934, a'r amryw o waharddiadau a roddwyd ar Graeme Obree yn y 1990au a gwahardd unrhyw feic heb diwb sedd o'u rasys yn 2000.

Llywyddion

Corff Llywodraethu Rhyngwladol

Mynediad pencadlys yr UCI, Aigle, (Y Swistir)

Rasio Ffordd

Dynion

Rhwng 1989 a 2004, gweinyddodd yr UCI, Cwpan y Byd, Ffordd yr UCI, cystadleuaeth ar hyd y tymor a oedd yn cynnwys pob ras broffesiynol un diwrnod. Yn 2005, cyfnewidwyd hyn am yr UCI ProTour, cyfres sy'n cynnwys Teithiau Mawry Tour de France, Giro d'Italia a Vuelta a España) yn ogystal ac amryw mwy eang o rasus un diwrnod a rasys sawl cam.

I ehangu poblogrwydd a chyfranogaeth rasio seiclo ffordd drwy gydol y byd, mae'r UCI yn datblygu cyfres o rasys a adnabyddwyd yn gyfansoddol fel y Cylchdeithiau Cyfandirol UCI ar gyfer pob ardal y byd.

Merched

Mae'r UCI wedi cefnogi cystadleuaeth lefel elet ar gyfer merched ers 1959, gan gynnwys coronni Pencampwr y Byd, Merched (Rasio Ffordd) ac, ers 1994, Pencampwr Time Trial y Byd, Merched.

Ers 1998, mae Cwpan y Byd, Merched yr UCI wedi bod yn gystadleuaeth sawl cymal a ddeilir ar draws y tymor, yn cynnwys rasus un diwrnod a rasys sawl cam.

Seiclo Trac

Mae Pencampwriaeth y Byd, Trac yr UCI ar gyfer dynion a merched, yn cynnig pencampwriaethau tîm ac unigol mewn sawl disgyblaeth seiclo trac.

Cyclo-cross

Mae pob ras a gefnogir gan yr UCI, yn rhan o gystadleuaeth hyd y tymor, a adnabyddir fel Cwpan y Byd, Cyclo-Cross yr UCI. Yn ogystal, deilir sawl ras un diwrnod pob blwyddyn i benderfynu Pencampwr y Byd ym Pencampwriaethau'r Byd, Cyclo-cross yr UCI.

Rasio beicio mynydd

Ym myd beicio mynydd, Pencampwriaethau'r Byd, Beicio Mynydd & Threialon yr UCI yw'r gystadleuaeth pwysicaf a bri a gynhelir pob blwyddyn. Mae'n cynnwys disgyblaethau beicio traws gwlad, beicio lawr allt a pedwar-croes. Yn ogystal, mae'r pencampwriaethau'n cynnwys Pencampwriaeth y Byd ar gyfer beicio treialon.

Mae Cwpan Beicio Mynydd y Byd, UCI, yn gyfres o rasys sydd wedi cael eu cynnal yn flynyddol ers 1991.

Rasio BMX

Deilir cwpan y Byd BMX Supercross, UCI mewn sawl cymal dros y tymor rasio, a Penampwriathau Trac y Byd, UCI yw'r pencampwriaeth un diwrnod ar gyfer rasio BMX.

Seiclo tu mewn

Mae'r UCI yn cefnogi pencampwriaethau'r byd yn meysydd seiclo artistig a dawns seiclo mewn digwyddiad blynyddol a elwir yn Pencampwriaethau Seiclo tu mewn yr UCI.

Conffederasiynau Cyfandirol

Mae'r ffederatiynau cenedlaethol yn ffurfio'r conffederatiwns fesul cyfandir:

Dolen allanol

Name Country Presidency
Emile de Beukelaer 1900-1922
Léon Breton 1922-1936
Max Burgi 1936-1939
Alban Collignon 1939-1947
Achille Joinard 1947-1958
Adriano Rodoni 1958-1981
Luis Puig 1981-1990
Hein Verbruggen 1991-2006
Pat McQuaid 2006-2013
Brian Cookson 2013-2017
David Lappartient 2017-