Gwasanaeth lletya blogiau ydy WordPress.com gan gwmni Automatic ac sy'n cael ei yrru gan feddalwedd WordPress. Mae'n darparu lletya am ddim ar gyfer defnyddwyr cofrestredig ac mae'n cael ei gynnal yn ariannol gan uwrchraddio, gwasanaethau "VIP" a hysbysebion.
Agorodd y wefan i brofwyr beta ar 8 Awst 2005 ac fe agorwyd i'r cyhoedd ar 21 Tachwedd 2005. Fe'i lansiwyd yn wreiddiol fel gwasanaeth gwahoddiad-yn-unig, er ar un adeg, roedd cyfrifon ar gael i ddefnyddwyr y porwr gwe Flock. Roedd dros 56 miliwn blog unigol gyda'r gwasanaeth ar 13 Hydref 2012.
Nid yw'n orfodol i fod wedi cofrestru cyn gallu darllen neu adael sylw ar flogiau sy wedi eu lletya ar y system, oni bai bod perchennog y blog yn dewis hynny. Rhaid cofrestru i fod yn berchen ar flog, neu i bostio cofnod ar flog. Mae holl nodweddion sylfaenol a gwreiddiol y wefan am ddim. Mae modd talu am y gallu i olygu CSS, mapio enw parth, cofrestru enw parth, tynnu hysbysebion, ailgyfeirio gwefan, uwchlwytho fideo ac uwchraddio cyfyngder storio.
Mae modd dewis cael rhywngwyneb Cymraeg.