Y Democratiaid Rhyddfrydol Liberal Democrats | |
---|---|
Arweinydd | Jo Swinson |
Dirprwy Arweinydd | Ed Davey |
Llywydd | Y Farwnes Brinton |
Sefydlwyd | 3 Mawrth 1988 |
Unwyd gyda | Plaid Ryddfrydol (DU) Democratiaid Cymdeithasol |
Pencadlys | 8–10 Great George Street, Llundain, SW1P 3AE |
Asgell yr ifanc | Liberal Youth |
Aelodaeth (3 Mehefin 2015) | 61,456 |
Rhestr o idiolegau | Rhyddfrydiaeth Rhyddfrydiaeth gymdeithasol |
Sbectrwm gwleidyddol | Canol |
Partner rhyngwladol | Liberal International |
Lliw | Melyn/Oren |
Tŷ'r Cyffredin | 11 / 650 |
Tŷ'r Arglwyddi | 86 / 790 |
Cynulliad Llundain | 1 / 25 |
Llywodraeth leol | 248 / 19,698 |
Senedd yr Alban | 5 / 129 |
Senedd Cymru | 1 / 60 |
Gwefan | |
libdems.org.uk |
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn blaid wleidyddol ryddfrydol, gymdeithasol sy'n gweithredu yn y Deyrnas Unedig ac a elwir ar lafar yn Lib Dems. Hyd at 2015, hi oedd y drydedd blaid fwyaf o'r pleidiau gwleidyddol yn y Deyrnas Unedig.
Ffurfiwyd y Democratiaid Rhyddfrydol yn 1988 pan unwyd y Blaid Ryddfrydol a Plaid y Democratiaid Cymdeithasol (Social Democratic Party neu'r "SDP"). Cyn hynny am saith mlynedd, roedd y ddwy blaid wedi ffurfio'r 'Cynghrair yr SDP-Rhyddfrydwyr'. Hyd at 1988, bu'r Blaid Ryddfrydol mewn bodolaeth am 129 mlynedd, gydag arweinwyr cryf a Chymreig megis Gladstone a Lloyd George. Rhoddwyd cryn bwyslais ar ddiwygiadau rhyddfrydol er lles y gymdeithas, ac arweiniodd hyn at sefydlu'r Wladwriaeth les yng ngwledydd Prydain a Gogledd Iwerddon. Yn 1920, fodd bynnag, goddiweddwyd y Rhyddfrydwyr gan y Blaid Lafur, fel y prif fygythiad i'r Blaid Geidwadol. Gwahanwyd y Rhyddfrydwyr a'r Llafurwyr ymhellach yn 1981 oherwydd i'r Blaid Lafur droi fwyfwy i'r asgell chwith.
Etholwyd Nick Clegg yn Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn 2007 ac yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2010, cipiwyd 57 o'r seddi ganddynt, a nhw felly oedd y drydedd blaid fwyaf o ran nifer yr Aelodau Seneddol. Roedd gan y Ceidwadwyr 307 a Llafur 258 AS, a gan nad oedd gan yr un blaid y mwyafrif clir, ymunodd y Democratiaid Rhyddfrydol gyda'r Ceidwadwyr i ffurfio cynghrair a phenodwyd Clegg yn Ddirprwy Brif Weinidog y DU. Yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015, lleihawyd nifer ei haelodau Seneddol i 8 ac ymddiswyddodd Clegg fel Arweinydd ei blaid.
Ffurfiwyd y Democratiaid Rhyddfrydol ar 3 Mawrth 1988 pan unwyd y Blaid Ryddfrydol gyda'r Democratiaid Cymdeithasol, ond daeth i gytundeb gyda'i gilydd saith mlynedd ynghynt pan ffurfiwyd y 'Cynghrair yr SDP-Rhyddfrydwyr' (SDP–Liberal Alliance). Tarddiad y Blaid Ryddfrydol oedd y Chwigiaid, y Radicaliaid a'r Peelites (yn 1859). Roedd yr SDP cryn dipyn yn iau - fe'i crewyd yn 1982 gan gyn-aelodau seneddol y Blaid Lafur, gydag ambell Geidwadwr a newidiodd ei liw.
Sylweddolodd yr SDP a'r Rhyddfrydwyr - yn gam neu'n gymwys - nad oedd lle i bedair plaid yng ngwleidyddiaeth gwledydd Prydain, a daethpwyd i gytundeb (neu 'Gynghrair') na fyddent yn sefyll yn erbyn ei gilydd mewn etholiad. Arweinyddion y Gynghrair oedd David Steel o'r Rhyddfrydwyr a Roy Jenkins ar ran yr SDP; cyn hir, daeth David Owen i gymryd lle Jenkins. Roedd gan y ddwy blaid eu polisiau eu hunain, ond cyflwynwyd un maniffesto ar gyfer Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1987.
Etholiad cyffredinol |
Enw | Arweinydd | Cyfran o'r bleidlais |
Seddi | Cyfran o'r seddi |
Ffynhonnell |
1983 | Cynghrair yr SDP-Rhyddfrydwyr | David Steel | 25.4% | 23 / 650 |
3.5% | |
1987 | Cynghrair yr SDP-Rhyddfrydwyr | 22.6% | 22 / 650 |
3.4% | ||
1992 | Democratiaid Rhyddfrydol | Paddy Ashdown | 17.8% | 20 / 651 |
3% | |
1997 | Democratiaid Rhyddfrydol | 16.8% | 46 / 659 |
7% | ||
2001 | Democratiaid Rhyddfrydol | Charles Kennedy | 18.3% | 52 / 659 |
8% | |
2005 | Democratiaid Rhyddfrydol | 22.0% | 62 / 646 |
10% | ||
2010 | Democratiaid Rhyddfrydol | Nick Clegg | 23.0% | 57 / 650 |
9% | |
2015 | Democratiaid Rhyddfrydol | 7.9% | 8 / 650 |
1.2% | ||
2017 | Democratiaid Rhyddfrydol | Tim Farron | 7.4% | 12 / 650 |
1.8% | |
2019 | Democratiaid Rhyddfrydol | Jo Swinson | 11.6% | 11 / 650 |
1.7% |
Blwyddyn | Aelodaeth |
---|---|
2001 | 73,276 |
2002 | 71,636 |
2003 | 73,305 |
2004 | 72,721 |
2005 | 72,031 |
2006 | 68,743 |
2007 | 65,400 |
2008 | 59,810 |
2009 | 58,768 |
2010 | 65,038 |
2011 | 48,934 |
2012 | 42,501 |
2013 | 43,451 |
2015 | 61,456 |
Democratiaid Rhyddfrydol Cymru - y Blaid yng Nghymru.
|accessdate=
(help)
|title=
(help)
|deadurl=
ignored (help)
|publisher=
(help)
|deadurl=
ignored (help); Italic or bold markup not allowed in: |publisher=
(help)
|deadurl=
ignored (help); Italic or bold markup not allowed in: |publisher=
(help)
|deadurl=
ignored (help); Italic or bold markup not allowed in: |publisher=
(help)
|