Ymerawdwr Glân Rhufeinig oedd y teitl a roddid i reolwyr yr Ymerodraeth Lân Rufeinig yng nghanolbarth Ewrop yn ystod y Canol Oesoedd a’r cyfnod modern cynnar. Yn draddiodiadol ystyrir mai Siarlymaen, breinin y Ffranciaid, oedd yr ymerawdwr cyntaf. Coronwyd ef yn Ymerawdwr y Gorllewin gan y Pab Leo III ar 25 Rhagfyr800. Yn 1508, ac wedyn yn barhaol wedi 1556, cymerodd y brenin y teitl "Ymerawdwr etholedig", heb deithio i Rufain i’w goroni gan y Pab. Ymddiswyddodd yr ymerawdwr olaf, Ffransis II, yn 1806.
Rhestr Ymerodron
Sylwer nad yw’r rhifau yn dilyn ei gilydd, gan fod y rhifau yn cyfeirio at frenhinoedd yr Almaen, ac nad oedd rhai o’r rhain yn ymerawdwr.
Harri II y Sant, 1014-1024 (noder ei fod yn cael ei alw yn Harri II fel olynydd Harri I yr Adarwr, oedd yn frenin yr Almaen 919-936 ond nad oedd yn ymerawdwr.)
Brenhinllin Saliaidd (Ffrancaidd)
Conrad II, 1027-1039 (olynydd Conrad I, oedd yn frenin yr Almaen 911-918 ond nad oedd yn ymerawdwr.)