Enghraifft o'r canlynol | cangen o fywydeg |
---|---|
Math | bywydeg |
Y gwrthwyneb | pseudoanatomy |
Rhan o | bywydeg, meddygaeth |
Yn cynnwys | Swtomeg, anatomeg planhigion, esgyrneg, Neuroanatomi |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Rhan o gyfres ar |
Fywydeg |
---|
Biolegwyr Cymreig adnabyddus |
Anatomeg (o'r Groeg ἀνατομία (anatomia) sef 'gwahanu a thorri i fyny') yw astudiaeth, adeiladwaith a threfniant organebau byw. Astudiaeth anatomeg anifeiliaid yw sŵtomeg, ac astudiaeth anatomeg planhigion yw ffytonomeg.
Canghennau pwysicaf anatomeg ydy anatomeg gymharol ac anatomeg ddynol. Mae'r gair anatomi fodd bynnag yn cyfeirio at rannau o'r corff dynol yn hytrach na'r pwnc.
Yr astudiaeth wyddonol o sut mae'r corff dynol yn gweithio ydy anatomeg ddynol (hefyd 'anatomi dynol'). Mae dwy ran i'r asudiaeth hon:
Dros y blynyddoedd mae anatomeg wedi datblygu drwy disectio, cofnodi a llunio cronfa o wybodaeth am yr organau. Defnyddiwyd a defnyddir heddiw hefyd gyrff anifeiliaid a chyrff marw dynol i ychwanegu at y wybodaeth hon. Ni ddylid, fodd bynnag, gymysgu anatomeg gyda anatomeg patholegol neu histopatholeg sef asudio meinweoedd microscopic organau wedi'u heintio.
Ar wyneb y corff ceir nifer o wrthrychau hawdd eu hadnabod, fel cerrig milltir ar draws y corff cyfan. Mae lawfeddygon a milfeddygon yn defnyddio'r wybodaeth hon o wyneb y corff fel canllaw pwysig i wybod beth sydd o dan y croen.
Cymharu'r gwahanol strwythurau o fewn gwahanol anifeiliaid y mae anatomeg gymharol. Roedd Syr Richard Owen (1804 - 1892), sefydlydd yr Amgueddfa Brydeinig yn un o brif arbenigwyr Ewrop ar y pwnc.
Cymharu gwahanol genedligrwydd a hil bodau dynol y mae Anatomeg anthropolegol.
Astudiaeth artistig o'r anatomi (dynol ac anifail) ydyw Anatomeg artistig.
O'r Groeg y tardd y gair 'anatomeg' neu 'anatomi': ἀνατομή anatomē "dyrannu" (Saesneg: dissection) (o ἀνατέμνω anatémnō "torri fyny" a ddaw o'r gair ἀνά aná "fyny", a τέμνω témnō "torri"),. Yn yr 2g y mwyaf nodedig, a thad anatomeg, efallai, yw rhannodd Claudius Galenus, a enwir yn ddiweddar yn 'Galen') neu 'Galen o Bergamon', Twrci heddiw. Rhannodd y corff dynol yn sawl maes gan gynnwys anatomeg, ffisioleg, patholeg, fferylliaeth a niwroleg - yn ogystal ag athroniaeth a rhesymeg. Anifeiliaid a ddyranwyd gan mwyaf yn y cyfnod hwn.
Ystyrir y De Humani Corporis Fabrica, llyfr yn yr iaith Ladin am ffisioleg gan Andreas Vesalius (1543) yn garreg filltir bwysig yn hanes anatomeg. Rhennir y gyfrol yn saith 'llyfr':
Yn Alexandria yr Henfyd y gwnaed y gwaith o gofnodi'r corff fwyaf trylwyr, gyda Herophilus ac Erasistratus (3g) yn gynhyrchiol iawn. Dyma'r ddau a ddechreuodd ddyranu'r corff er mwyn ei astudio'n wyddonol; Erasistratus a Praxagoras a sylweddolodd fod gwahaniaeth rhwng gwythienau (veins)a'r Rhydweliau (arteries).
Anatomeg · Biocemeg · Bioffiseg · Botaneg · Bioleg cell · Bioleg cadwraeth · Bioleg datblygiad · Ecoleg · Epidemioleg · Bioleg esblygiadol · Geneteg · Genomeg · Bioleg dynol · Imiwnoleg · Bioleg morol · Microbioleg · Bioleg foleciwlaidd · Paleontoleg · Patholeg · Ffisioleg · Bioleg systemau · Swoleg