Math | Anatomeg |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Anatomeg gymharol ydy'r astudiaeth o'r nodweddion cyffredin a'r gwahaniaethau yn anatomeg bodau byw. Mae'n wyddoniaeth sy'n perthyn yn agos iawn at fioleg esblygiad ac esblygiad yr amrywiol rywogaethau.
Y ddau gysyniad pennaf yw:
Mae'r rheolau dros ddatblygiad nodweddion arbennig yn wahanol iawn yn anatomeg gymharol, i'r homologaeth cyffredin fel y rhestrwyd gan Karl Ernst von Baer (rheolau Baer).
Ystyrir mai Edward Tyson oedd sylfaenydd anatomeg gymharol. Caiff ei gredydu gyda phenderfynu fod mamliaid morol yn famaliaid. Fe ddaeth i'r casgliad hefyd, fod tsimpansïaid yn debychach i ddyn na mwncïod oherwydd eu breichiau. Fe gymharodd Marco Aurelio Severino nifer o anifeiliaid yn ogystal, ac ymysg ei waith, Zootomia democritaea, anatomeg gymharol o adar yw un o'r gweithiau cyntaf o anatomeg gymharol.