Cyfansoddiad Ionic

Cyfansoddiad Ionic
Enghraifft o'r canlynoldosbarth strwythurol cyfansoddion cemegol Edit this on Wikidata
Mathcyfansoddyn cemegol Edit this on Wikidata

Mewn cemeg, mae cyfansoddiad ionic yn gyfansoddyn cemegol sy'n cynnwys ïonau a ddelir gyda'i gilydd gan rymoedd electrostatig a elwir yn "bondio ïonig".

Cell uned o sffalerit

Mae'n broses lle mae metel ag an-fetel yn adweithio gyda'i gilydd ac mae'r electronnau yn symyd o'r metel i'r an-fetel. Mae hyn yn creu ionau metel positif, ac ionau an-fetel negatif. Mae'r nifer o electronnau mae'r metel yn golli angen bod yn hafal i'r nifer o electronnau mae'r an-fetel yn ennill ac mae'n rhaid i'r taliadau (+ a -) o'r ionau positif a negetif canslo ei gilydd, fel bod y cyfansoddyn yn niwtral ar y cyfan, ond mae'n cynnwys ïonau â gwefr bositif o'r enw cationau ac ïonau â gwefr negatif a elwir yn "anionau". Gall y rhain fod yn ïonau syml fel y sodiwm (Na+) a chlorid (Cl) mewn sodiwm clorid, neu'n fathau polyatomig fel ïonau yr amoniwm (NH+4) a charbonad (CO2−3) mewn amoniwm carbonad.

Mae cyfansoddion ïonig sy'n cynnwys ïonau hydrogen (H+) yn "asidau", ac mae'r rhai sy'n cynnwys ïonau sylfaenol hydrocsid (OH) neu ocsid (O2−) yn cael eu galw'n "fas" (bases). Gelwir cyfansoddion ïonig heb yr ïonau hyn hefyd yn "halwynau"; ffurfir y rhain drwy adweithiau asid-bas. Gellir cynhyrchu cyfansoddion ïonig, hefyd, o'u ïonau cyfansoddol trwy anweddu eu toddydd (solvent), eu dyddodiad (precipitation), eu rhewi, adwaith cyflwr solet, neu adwaith a geir wrth drosglwyddo electronau metelau adweithiol gydag anfetelau adweithiol, fel nwyon halogen.

Cyfeiriadau