Mae Gwrthryfel Difodiant (wedi'i dalfyrru'n rhyngwladol fel XR ) yn fudiad amgylcheddol byd-eang. Mae'n defnyddio anufudd-dod sifil, di-drais i orfodi llywodraethau'r byd i i osgoi newid hinsawdd, colli bioamrywiaeth, a'r risg o gymdeithas a'r byd natur rhag methu.
Sefydlwyd Gwrthryfel Difodiant yn swyddogol yn y Lloegr ym Mai 2018, gyda thua chant o academyddion yn arwyddo galwad i weithredu i gefnogi yn Hydref 2018. Ddiwedd y mis hwnnw, lansiwyd XR gan Gail Bradbrook, Simon Bramwell, a Roger Hallam, ynghyd ag ymgyrchwyr hinsawdd eraill o'r grŵp ymgyrchu Rising Up! Yn Nhachwedd 2018, cafodd pum pont ar draws Afon Tafwys yn Llundain eu blocio mewn protest. Yn Ebrill 2019, meddiannodd Gwrthryfel Difodiant bum safle amlwg yng nghanol Llundain: Piccadilly Circus, Oxford Circus, Marble Arch, Pont Waterloo, a'r ardal o amgylch Sgwâr y Senedd.
Eu hysbrydoliaeth oedd mudiadau megis Occupy, y swffragetiaid, a’r mudiad hawliau sifil. Roedd Gwrthryfel Difodiant eisiau raliau tebyg ledled y byd o amgylch yr ymdeimlad o frys, ac i fynd i’r afael â chwalfa hinsawdd a’r chweched difodiant torfol. Mae nifer o weithredwyr yn y mudiad yn derbyn y posibilrwydd o gael eu harestio a'u carcharu.
Mae'r mudiad yn defnyddio awrwydr arddulliedig, wedi'i gylchu, a elwir yn "symbol difodiant", i rybuddio bod amser yn prysur ddiflannu i lawer o rywogaethau.
Sefydliad
Strwythur
Mae Gwrthryfel Difodiant yn fudiad llawr gwlad wedi'i ddatganoli, ac wedi'i ddatganoli. Gall unrhyw un sy'n gweithredu ar drywydd "tair nod XR ac sy'n cadw at ei ddeg egwyddor, sy'n ddi-drais, ddatgan eu bod yn gweithreduyn enw XR."
Trefniadaeth a rol
Mae gan y Gwrthryfel Difodiant strwythur datganoledig. Ar yr amod eu bod yn parchu'r 'egwyddorion a'r gwerthoedd', gall pob grŵp lleol drefnu digwyddiadau a gweithredoedd yn annibynnol. I drefnu'r mudiad, mae grwpiau lleol wedi'u strwythuro gyda 'gweithgorau' amrywiol yn gofalu am strategaeth, allgymorth (outreach), lles, ac ati.
Ieuenctid XR
Ffurfiwyd adain ieuenctid - XR Youth - o Wrthryfel Difodiant yng Ngorffennaf 2019. Mewn cyferbyniad â'r prif XR, mae'n canolbwyntio ar ystyried y De Byd -eang (neu'r ''Global South") a phobloedd brodorol, ac yn ymwneud yn fwy â chyfiawnder hinsawdd. Erbyn Hydref 2019 roedd 55 o grwpiau Ieuenctid XR yn y DU a 25 arall mewn mannau eraill. Mae pob XR Youth yn cynnwys pobl a anwyd ar ôl 1990, gydag oedran cyfartalog o 16, a rhai yn 10 oed.
Medi 2020
Ar 1 Medi 2020, cychwynnodd Gwrthryfel Difodiant 10 diwrnod o weithredu o’r enw Gwrthryfel yr Hydref, gyda gweithgareddau yng Nghaerdydd, Manceinion a Llundain. Llwyddodd protestwyr i rwystro Sgwâr y Senedd ar y diwrnod cyntaf a mynnu bod y Senedd yn cefnogi'r Mesur Argyfwng Hinsawdd ac Ecolegol, bil preifat a gyflwynwyd gan Caroline Lucas.
Ar 2 Medi, cynhaliodd gweithredwyr yng Nghaerdydd barti traeth pell-gymdeithasol y tu allan i Senedd Cymru, i dynnu sylw at effaith lefelau'r môr yn codi. Fe wnaeth eraill ludo eu hunain i adeilad BBC Cymru.
Gweithredoedd Dinas Efrog Newydd
Ar 26 Ionawr 2019, ffurfiodd gweithredwyr NYC Gwrthryfel Difodiant y symbol difodiant gyda’u cyrff ar y rhew yn llawr sglefrio iâ Canolfan Rockefeller. Dringodd actifydd a hongian baner ar y cerflun Prometheus aur mawr. Ar 17 Ebrill 2019, arestiwyd dros 60 o weithredwyr mewn sesiwn marw yn y strydoedd o amgylch Neuadd y Ddinas Efrog Newydd. Ar 22 Mehefin 2019, arestiwyd 70 o weithredwyr am rwystro traffig y tu allan i bencadlys The New York Times yng nghanol tref Manhattan. Ar 10 Awst 2019, arestiwyd dros 100 o bobl mewn gwrth-brotest drwy gau Priffordd yr Ochr Orllewinol, mewn protest ar gam-drin hawliau dynol honedig Asiantaeth Gorfodi Mewnfudo a Thollau yr Unol Daleithiau ar y ffin rhwng yr Unol Daleithiau a Mecsico a’i rôl mewn alltudiadau (deportations) torfol.
Gogledd-orllewin y Môr Tawel
Ar 28 Ebrill 2019, gwnaeth gweithredwyr di-drais rwystro trac rheilffordd gan ddod ag olew tywod tar Canada i Portland, Oregon, lle mae Zenith Energy, Ltd., cwmni rhyngwladol o Calgary, Alberta, Canada yn gweithredu terfynell allforio morol. Arestiwyd un ar ddeg o wrthdystwyr am blannu gardd ar ben y cledrau. Profwyd pump, gan gynnwys Ken Ward Jr., yn Chwefror 2020 yn llys Multnomah County, Oregon, am eu hanufudd-dod sifil.
Ar 6 Rhagfyr 2019, rhwystrodd gweithredwyr Gwrthryfel Difodiant y strydoedd am 7 awr yn Washington, DC, gan alw am roi diwedd ar gyllid tanwydd ffosilBanc y Byd.
Ar 24 Ionawr 2020, cadwynodd 25 o weithredwyr Gwrthryfel Difodiant eu hunain i reiliau llaw ym maes awyr Kastrup yn Nenmarc, mewn protest yn erbyn cynlluniau ar gyfer ei ehangu yn y dyfodol. Fe wnaethant gyhoeddi bod angen canslo ehangu'r maes awyr ar unwaith i gyrraedd niwtraliaeth hinsawdd erbyn 2025.
Arestio fel tacteg
Mae Gwrthryfel Difodiant yn defnyddio arestio torfol fel tacteg i geisio cyflawni ei nodau. Ymchwiliodd sylfaenwyr Gwrthryfel Difodiant i hanesion "y swffragetiaid, gorymdeithwyr halen India, y mudiad hawliau sifil a mudiadau democratiaeth Gwlad Pwyl a Dwyrain yr Almaen", gan ddysgu gwersi o'r ymgyrchoedd hanesyddol hyn, er mwy eu haddasu ar gyfer yr argyfwng hinsawdd. Mae'r cyd-sylfaenydd Roger Hallam wedi dweud "nid yw llythyrau, e-bostio, gorymdeithiau yn gweithio. Mae angen tua 400 o bobl arnoch chi i fynd i'r carchar. Tua dwy i dair mil o bobl i'w harestio."
Ym mhrotestiadau Llundain yn Ebrill 2019 gwnaed 1,130 arest, ac yn ystod pythefnos o weithredu yn Llundain yn Hydref 2019, fel rhan o'r "Gwrthryfel Rhyngwladol", arestiwyd 1,832. Roedd hyn yn cynnwys Aelod y Blaid Werdd yn Senedd Ewrop yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr, Ellie Chowns, yn ogystal â chyd-arweinydd y Blaid Werdd ac Arweinydd yr wrthblaid ar Gyngor Lambeth, Jonathan Bartley.
Llyfryddiaeth
Nid Dril yw Hwn: Llawlyfr Gwrthryfel Difodiant. Llundain: Penguin, 2019.ISBN978-0-14-199144-3 .
↑Gaffney, Adrienne (16 April 2020). "The Wild, Ambitious, Madcap Environmental Activism of Extinction Rebellion". ELLE. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-01-26. Cyrchwyd 15 Mawrth 2021. Extinction Rebellion began in April 2018 when a diverse group of about 15 activists met at Gail Bradbrook’s house in the Cotswolds. Bradbrook, a molecular biophysicist who’d been a part of antifracking protests and the Occupy movement, was joined by others accustomed to making splashy statements for the cause. There was her former partner Simon Bramwell, who spent several weeks in a tree in Bristol to fight a proposed bus path back in 2015 (he was unsuccessful), and Roger Hallam, an organic farmer who staged a hunger strike in 2017 to get King’s College London to divest from fossil fuel companies (the school eventually agreed).