Enghraifft o'r canlynol | Gemau Olympaidd yr Haf, digwyddiadau a ohiriwyd oherwydd y Rhyfel Mawr |
---|---|
Dyddiad | 1916 |
Rhagflaenwyd gan | Gemau Olympaidd yr Haf 1912 |
Olynwyd gan | Gemau Olympaidd yr Haf 1920 |
Lleoliad | Deutsches Stadion |
Gwladwriaeth | Ymerodraeth yr Almaen |
Roedd Gemau Olympaidd yr Haf 1916 (Almaeneg: Olympische Sommerspiele 1916), digwyddiad aml-chwaraeon a adnabyddir yn swyddogol fel Gemau'r VI Olympiad i fod i'w cynnal yn Berlin, yr Almaen, ond fe'u canslwyd am y tro cyntaf yn hanes y Gemau oherwydd y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd Berlin wedi ei dewis yn ystod 14eg Sesiwn yr IOC yn Stockholm ar 4 Gorffennaf 1912 gan drechu ceisiadau gan Alexandria, Amsterdam, Brussels, Budapest a Cleveland..
Bu'r paratoadau yn parhau er gwaethaf dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf ym 1914 gan nad oedd y trefnwyr yn disgwyl i'r rhyfel barhau am sawl blwyddyn. Fel rhan o'r trefniadau roedd cynlluniau ar gyfer wythnos o gampau'r gaeaf gyda sglefrio cyflymder, sglefrio ffigyrau, hoci iâ a sgïo Nordig a byddai hyn yn arwain at sefydlu Gemau Olympaidd y Gaeaf am y tro cyntaf ym 1924.