Enghraifft o'r canlynol | Gemau Olympaidd y Gaeaf |
---|---|
Dyddiad | 1924 |
Dechreuwyd | 25 Ionawr 1924 |
Daeth i ben | 5 Chwefror 1924 |
Olynwyd gan | 1928 Winter Olympics |
Lleoliad | Chamonix |
Gwladwriaeth | Ffrainc |
Gwefan | https://olympics.com/en/olympic-games/chamonix-1924 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cynhaliwyd Gemau Olympaidd y Gaeaf 1924 (Ffrangeg: Jeux olympiques d'été de 1924), digwyddiad aml-chwaraeon y gaeaf a adnabyddir yn swyddogol fel Olympic Winter Games wrth droed Mont Blanc yn Chamonix, Ffrainc rhwng 26 Ionawr a 5 Chwefror. Fe'u cynhaliwyd yn wreiddiol mewn cysylltiad a Gemau Olympaidd yr Haf 1924 ym Mharis.
Er bod Sglefrio ffigwr wedi bod yn rhan o Gemau Olympaidd yr Haf yn Llundain ac Antwerp a Hoci iâ yn Antwerp prin iawn oedd campau'r gaeaf wedi bod yn y Gemau. Yn ystod cyfarfod yr IOC yn Lausanne cafwyd cais am i gampau'r gaeaf gael chwarae teg a cytunwyd i gael "wythnos rhyngwladol o gampau'r gaeaf" yn Chamonix yn 1924.
Ni chafodd yr wythnos ei chydnabod yn swyddogol fel Gemau Olympaidd y Gaeaf hyd nes cyfarfod yr IOC yn Prague ym mis Mai 1925.
Parhaodd y traddodiad o gynnal Gemau Olympaidd yr Haf a'r Gaeaf yn yr un flwyddyn hyd nes 1992. Ym 1986 pleidleisiodd yr IOC i symud Gemau'r Gaeaf i fod dwy flynedd wedi Gemau'r Haf gan gychwyn efo'r Gemau yn Lillehammer ym 1994.