Gordon Brown AS | |
| |
Cyfnod yn y swydd 27 Mehefin 2007 – 11 Mai 2010 | |
Rhagflaenydd | Tony Blair |
---|---|
Olynydd | David Cameron |
Canghellor y Trysorlys
| |
Cyfnod yn y swydd 2 Mai 1997 – 28 Mehefin 2007 | |
Rhagflaenydd | Kenneth Clarke |
Olynydd | Alistair Darling |
Geni | 20 Chwefror 1951 Glasgow, Yr Alban, DU |
Etholaeth | Kirkcaldy a Cowdenbeath |
Plaid wleidyddol | Llafur |
Priod | Sarah Brown |
Cyn-Brif Weinidog y Deyrnas Unedig yw James Gordon Brown (ganwyd 20 Chwefror, 1951 yn Govan, Glasgow, yr Alban). Cymerodd y swydd ar 27 Mehefin, 2007, tridiau ar ôl dod yn arweinydd y Blaid Lafur. Yn gynt fe wasanaethodd fel Canghellor y Trysorlys dan Tony Blair o 1997 tan 2007, y cyfnod hwyaf i Ganghellor wasanaethu ers Nicholas Vansittart ar ddechrau'r 19g. Mae'n aelod blaenllaw o Cyfeillion Llafur Israel.
Mae gan Brown radd Doethur mewn hanes o Brifysgol Caeredin a threuliodd ei yrfa gynnar yn gweithio fel newyddiadurwr teledu. Cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol dros Ddwyrain Dunfermline yn 1983 ac yn AS dros Kirkcaldy a Cowdenbeath yn 2005; ymddeolodd fel AS cyn Etholiad Cyffredinol, 2015 pan gipiodd yr SNP'r sedd.
Fel Prif Weinidog, bu Brown hefyd yn dal swyddi Prif Arglwydd y Trysorlys a Gweinidog dros y Gwasanaeth Sifil. Nodwyd cangelloriaeth Brown gan ddiwygiadau arwyddocaol mewn polisi ariannol a chyllidol Prydain, yn cynnwys trosglwyddiad pwerau gosod cyfraddau llog i Fanc Lloegr, gan ehangu a dwysau grymoedd y Trysorlys. Ei weithredoedd mwyaf dadleuol oedd diddymu cymorth Blaendreth Corfforaeth (ACT) yn ei gyllideb gyntaf – gweithred a gafodd ei beirniadu am ei heffaith ar gronfeydd pensiwn – a dileu'r cyfradd treth 10c yn ei gyllideb derfynol yn 2007.
Yn ystod ei gyfnod fel Prif Weinidog wynebodd Brown ôl-effeithiau'r argyfwng economaidd a gwladoliad cysylltiedig Northern Rock ayb, y ddadl dros y gyfradd treth 10c, cynnydd mewn prisiau olew a phetrol, a chwyddiant cynyddol. Mae Brown hefyd wedi dioddef o ganlyniad i ymchwiliadau i mewn i gyhuddiadau o roddion anweddus i'w blaid, brwydr wleidyddol ddrud dros gadw terfysgwyr honedig o dan glo am 42 niwrnod, a threchiadau sylweddol mewn is-etholiadau, megis Dwyrain Glasgow, 2008. Er i boblogrwydd Brown a'r Blaid Lafur gynyddu ar gychwyn ei brifweinidogaeth, mae'u safiadau mewn polau piniwm ers hynny wedi gostwng yn sylweddol. Yn ystod haf 2008 bu sôn am her bosib i arweinyddiaeth Brown, ond enciliodd fygythiad cystadleuaeth ym mis Hydref yn dilyn Cynhadledd y Blaid Lafur a gwaethygiad yr argyfwng economaidd. Ymddiswyddodd fel Prif Weinidog ar 11 Mai, 2010.
Fel Canghellor y Trysorlys mae wedi llywyddu'r "cyfnod hwyaf o dwf a welodd y wlad erioed", gwneud Banc Lloegr yn annibynnol a chyflwyno cytundeb ar dlodi a newid hinsawdd yn Uwchgynhadledd yr G8 yn 2005.
Pwysleiddiodd Brown 'Prydeindod', yn enwedig pan oedd yn Brif Weinidog ac yn ystod Refferendwm annibyniaeth i'r Alban, 2014. Yn Ionawr 2006 rhoddodd araith i Gymdeithas y Ffabiaid yn galw am "Ddiwrnod Prydeinig" i ddod yn ŵyl flynyddol. Yn Ebrill yn yr un flwyddyn dywedodd ei fod eisiau gweld "baner (Jac yr Undeb) yn hedfan ym mhob gardd yn y wlad" ar y diwrnod hwnnw Awgrymwyd gan feirniaid Gordon Brown fod hyn yn ymateb i wrthwynebiad rhai Saeson i gael Albanwr yn Brif Weinidog, ond mewn gwirionedd cafwyd sawl datganiad gan Brown yn pwysleisio Prydeindod cyn iddo gymryd yr awennau o ddwylo Blair yn 2007. Gweithiodd Brown yn frwd i sefydlu'r "Diwrnod y Lluoedd Arfog" newydd hefyd. Bydd y 'diwrnod' hwnnw yn ymestyn dros benwythnos ac yn cynnwys gorymdeithiau milwrol, cyflwyniadau i ysgolion, a tattoos milwrol ar feysydd pêl-droed.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: etholaeth newydd |
Aelod Seneddol dros Dwyrain Dunfermline 1983 – 2005 |
Olynydd: dilewyd yr etholaeth |
Rhagflaenydd: etholaeth newydd |
Aelod Seneddol dros Kirkcaldy a Cowdenbeath 2005 – presennol |
Olynydd: deiliad |
Swyddi gwleidyddol | ||
Rhagflaenydd: Kenneth Clarke |
Canghellor y Trysorlys 2 Mai 1997 – 28 Mehefin 2007 |
Olynydd: Alistair Darling |
Rhagflaenydd: Tony Blair |
Prif Weinidog y Deyrnas Unedig 27 Mehefin 2007 – 11 Mai 2010 |
Olynydd: David Cameron |
Swyddi gwleidyddol pleidiol | ||
Rhagflaenydd: Tony Blair |
Arweinydd y Blaid Lafur 24 Mehefin 2007 – 11 Mai 2010 |
Olynydd: Harriet Harman |
|
|