Mae OpenAI yn sefydliad ymchwil i ddeallusrwydd artiffisial (AI) o'r Unol Daleithiau a sefydlwyd yn Rhagfyr 2015, gyda'r bwriad o ddatblygu deallusrwydd cyffredinol artiffisial "diogel a buddiol", y mae'n ei ddiffinio fel "systemau ymreolaethol iawn sy'n perfformio'n well na bodau dynol yn y gwaith mwyaf gwerthfawr yn economaidd. Fel un o brif sefydliadau'r AI Spring, mae wedi datblygu sawl model iaith mawr, modelau cynhyrchu delweddau, ac yn flaenorol, modelau ffynhonnell agored hefyd. Mae rhyddhau ChatGPT wedi cael y clod am ddechrau'r hyn a elwir yn 'wanwyn' neu 'chwyldro' deallusrwydd artiffisial.
Mae'r sefydliad yn cynnwys yr OpenAI, Inc. sef sefydliad dielw sydd wedi'i gofrestru yn Delaware a'i is- gwmni er-elw OpenAI Global, LLC.
Fe’i sefydlwyd gan Ilya Sutskever, Greg Brockman, Trevor Blackwell, Vicki Cheung, Andrej Karpathy, Durk Kingma, Jessica Livingston, John Schulman, Pamela Vagata, a Wojciech Zaremba, gyda Sam Altman ac Elon Musk. Darparodd Microsoft $1 biliwn i OpenAI Global LLC a $10 biliwn pellach yn 2019 gyda chyfran sylweddol o'r buddsoddiad ar ffurf adnoddau cyfrifiadurol ar wasanaeth cwmwl Azure Microsoft.
Ar 17 Tachwedd 2023, fe ddiswyddodd y bwrdd Altman fel Prif Swyddog Gweithredol (CEO), tra diswyddwyd Brockman fel cadeirydd ac yna ymddiswyddodd fel arlywydd. Pedwar diwrnod yn ddiweddarach, dychwelodd y ddau ar ôl trafodaethau gyda'r bwrdd, ac ymddiswyddodd y rhan fwyaf o aelodau'r bwrdd. Roedd y bwrdd cychwynnol newydd yn cynnwys cyn-Brif Swyddog Gweithredol Salesforce, Bret Taylor fel cadeirydd a chafodd Microsoft sedd di-bleidlais.
Hanes
Yn ôl ymchwiliad dan arweiniad TechCrunch, Elon Musk oedd y rhoddwr ariannol mwyaf tra na chyfranodd YC Research yr un geiniog goch. Dywedodd y sefydliad y byddai'n "cydweithio'n rhydd" gyda sefydliadau ac ymchwilwyr eraill trwy wneud ei batentau a'i ymchwil yn agored i'r cyhoedd. Ers ei sefydlu, mae pencadlys OpenAI yn Adeilad Pioneer yn Mission District, San Francisco.
Yn Ebrill 2016, rhyddhaodd OpenAI fersiwn beta (arbrofol) o "OpenAI Gym", ei lwyfan ar gyfer ymchwil dysgu ac addysgu. Rhoddodd Nvidia ei uwchgyfrifiadur DGX-1 cyntaf i OpenAI yn Awst 2016 i'w helpu i hyfforddi modelau AI mwy a mwy cymhleth gyda'r gallu i leihau'r amser prosesu o chwe diwrnod i ddwy awr. Yn Rhagfyr 2016, rhyddhawyd OpenAI "Universe", llwyfan meddalwedd ar gyfer mesur a hyfforddi deallusrwydd cyffredinol AI ar draws cyflenwad o gemau, gwefannau a chymwysiadau bydeang eraill.
Yn 2017 gwariodd OpenAI $7.9 miliwn, neu chwarter ei dreuliau swyddogaethol, ar gyfrifiadura cwmwl yn unig. Mewn cymhariaeth, cyfanswm treuliau DeepMind yn 2017 oedd $442 miliwn. Yn ystod haf 2018, roedd hyfforddi bots Dota 2 OpenAI yn unig yn golygu rhentu 128,000 CPU a 256 GPU gan Google am wythnosau di-ben-draw.
Yn 2018, ymddiswyddodd Musk o'i sedd ar y bwrdd, gan nodi " gwrthdaro posibl yn y dyfodol" oherwydd ei rôl arall, fel Prif Swyddog Gweithredol Tesla a oedd yn brysur ddatblygu AI Tesla ar gyfer ceir hunan-yrru. Mae Sam Altman yn honni bod Musk yn credu bod OpenAI wedi cwympo y tu ôl i chwaraewyr eraill fel Google a chynigiodd Musk yn lle hynny gymryd drosodd OpenAI ei hun, rhywbeth a wrthodwyd gan y bwrdd. Gadawodd Musk OpenAI wedi hynny ond honnodd ei fod yn parhau i fod yn rhoddwr, ond ni wnaeth unrhyw roddion ar ôl iddo adael, hyd y gwyddus.
Yn Chwefror 2019, cyhoeddwyd GPT-2, a gafodd lawer o sylw am ei allu i gynhyrchu testun tebyg i ddyn.
Yn 2019, trosglwyddodd OpenAI o fod yn gorff dielw (nid-am-elw) i 'gapio'r elw' ar luoswm o 100 gwaith unrhyw fuddsoddiad. Yn ôl OpenAI, mae'r model 'capio'r elw' hwn yn caniatáu i OpenAI Global LLC ddenu buddsoddiad yn gyfreithlon o gronfeydd menter a rhoi arian i weithwyr y cwmni. Mae llawer o'r ymchwilwyr gorau'n gweithio i Google Brain, DeepMind, neu Facebook, sy'n cynnig opsiynau stoc na fyddai cwmni dielw yn gallu eu gwneud. Cyn y cyfnod pontio, roedd yn gyfreithiol ofynnol iddyn nhw ddatgelu symiau iawndal y gweithwyr pwysicaf yn OpenAI.
Yna dosbarthodd y cwmni ecwiti i'w weithwyr a ffurfio partneriaeth â Microsoft, a wnaeth fbuddsoddi o $1 biliwn i'r OpenAI. Ers hynny, mae systemau OpenAI wedi rhedeg ar lwyfan uwchgyfrifiadura Azure gan Microsoft.
2020-2023: partneriaeth rhwng ChatGPT, DALL-E â Microsoft
Yn 2020, cyhoeddodd OpenAI GPT-3, model iaith sydd wedi’i hyfforddi ar setiau mawr o ddata o'r rhyngrwyd. Mae GPT-3 wedi'i anelu at iaith naturiol sy'n ateb cwestiynau, ond gall hefyd gyfieithu rhwng ieithoedd a chynhyrchu testun byrfyfyr yn gydlynol. Cyhoeddodd hefyd y byddai API cysylltiedig, a enwir yn syml "yr API", yn ffurfio calon ei gynnyrch masnachol cyntaf.
Yn 2021, cyflwynodd OpenAI DALL-E, model dysgu dwfn arbenigol a all gynhyrchu delweddau digidol cymhleth o ddisgrifiadau testunol, gan ddefnyddio amrywiad o bensaernïaeth GPT-3.
Yn Rhagfyr 2022, derbyniodd OpenAI sylw eang yn y cyfryngau ar ôl lansio rhagolwg rhad ac am ddim o ChatGPT, ei chatbot AI newydd yn seiliedig ar GPT-3.5. Yn ôl OpenAI, cofrestriadau o fewn y pum diwrnod dros filiwn y diwrnod cyntaf. Yn ôl ffynonellau dienw a ddyfynnwyd gan Reuters yn Rhagfyr 2022, roedd OpenAI Global LLC yn rhagamcanu $200 miliwn o refeniw yn 2023 a $1 biliwn mewn refeniw yn 2024.
Yn Ionawr 2023, roedd OpenAI Global LLC mewn trafodaethau am gyllid a fyddai'n codi gwerth y cwmni OpneAI Global LLC i $29 biliwn, dwbl ei werth 2021. Ar 23 Ionawr 2023 cyhoeddodd Microsoft fuddsoddiad aml-flwyddyn o US$ 10 biliwn newydd yn OpenAI Global LLC. Roedd sibrydion am y fargen hon yn awgrymu y gallai Microsoft dderbyn 75% o elw OpenAI nes iddo sicrhau ei enillion buddsoddi a chyfran o 49% yn y cwmni. Cyhoeddodd Google ap AI tebyg (sef Bard), ar ôl i ChatGPT gael ei lansio, gan ofni y gallai ChatGPT fygwth lle Google fel ffynhonnell wybodaeth.
Ar 7 Chwefror 2023, cyhoeddodd Microsoft ei fod yn adeiladu technoleg AI yn seiliedig ar yr un sylfaen â ChatGPT i mewn i Microsoft Bing, Edge, Microsoft 365 a chynhyrchion eraill.
Ar 14 Mawrth 2023, rhyddhaodd OpenAI GPT-4, fel API (gyda rhestr aros) ac fel nodwedd o ChatGPT Plus.
Ar 22 Mai 2023, postiodd Sam Altman, Greg Brockman ac Ilya Sutskever argymhellion ar gyfer llywodraethu deallusrwydd-uwch (superintelligence). Dyma'r math o ddeallusrwydd artiffisial a ddisgrifir yn y nofel Gymraeg Y Dydd Olaf yn 1967-8 gan Owain Owain. Maen nhw'n ystyried y gallai deallusrwydd-uwch ddigwydd o fewn y 10 mlynedd nesaf, gan ganiatáu "dyfodol mwy llewyrchus, dramatig" ac "o ystyried y posibilrwydd o risg dirfodol, ni allwn fod yn adweithiol yn unig". Dywedodd y grwp fod angen creu corff gwarchod rhyngwladol (international watchdog) tebyg i IAEA i oruchwylio systemau AI uwchlaw trothwy gallu penodol, gan awgrymu na ddylai systemau AI cymharol wan ar yr ochr arall gael eu rheoleiddio'n ormodol. Maen nhw hefyd yn galw am fwy o ymchwil diogelwch technegol ar gyfer dealltwriaeth-uwch, ac yn gofyn am fwy o gydlynu, er enghraifft trwy lywodraethau'n lansio prosiect ar y cyd fel bod "llawer o'r ymdrechion cyfredol yn dod yn rhan ohono".
Cymhellion
Mae rhai gwyddonwyr, fel Stephen Hawking a Stuart Russell, wedi mynegi pryderon, pe bai AI datblygedig (deallusrwydd-uwch) rywbryd yn ennill y gallu i ail-ddylunio ei hun ar gyfradd gynyddol, y gallai arwain at ddifodiant dynoliaeth. Dyma hefyd oedd byrdwn y nofel Y Dydd Olaf, yn ogystal a sut i wrthwynebu'r cyflyru, y dad-ddynoli a'r difodiant. Mae’r cyd-sylfaenydd Musk yn nodweddu AI fel “bygythiad dirfodol mwyaf” dynoliaeth.
Mae Musk ac Altman wedi datgan eu bod yn cael eu cymell yn rhannol gan bryderon am ddiogelwch AI a'r risg dirfodol o ddeallusrwydd cyffredinol artiffisial. Dywed OpenAI ei bod yn “anodd dirnad faint o AI ar lefel ddynol a allai fod o fudd i gymdeithas,” a’i bod yr un mor anodd deall “faint a allai niweidio cymdeithas pe bai’n cael ei adeiladu ar ei liwt ei hun, neu ei ddefnyddio’n anghywir”. Ni ellir gohirio ymchwil ar ddiogelwch yn ddiogel: "oherwydd hanes rhyfeddol AI, mae'n anodd rhagweld pryd y gallai AI ar lefel ddynol ddod o fewn cyrraedd." Dywed OpenAI y dylai AI "fod yn estyniad o ewyllys dyn ar lefel unigol ac, yn ysbryd rhyddid, wedi'i ddosbarthu mor eang ac mor gyfartal â phosib."Mae'r cyd-gadeirydd Sam Altman yn disgwyl i'r prosiect degawdau o hyd ragori ar ddeallusrwydd dynol.
Cyfeiriadau
↑"OpenAI Charter". openai.com (yn Saesneg). April 9, 2018. Archifwyd o'r gwreiddiol ar July 14, 2023. Cyrchwyd 2023-07-11.
↑Frank, Michael (September 22, 2023). "US Leadership in Artificial Intelligence Can Shape the 21st Century Global Order". The Diplomat (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-12-08. Instead, the United States has developed a new area of dominance that the rest of the world views with a mixture of awe, envy, and resentment: artificial intelligence... From AI models and research to cloud computing and venture capital, U.S. companies, universities, and research labs – and their affiliates in allied countries – appear to have an enormous lead in both developing cutting-edge AI and commercializing it. The value of U.S. venture capital investments in AI start-ups exceeds that of the rest of the world combined.