Enghraifft o'r canlynol | sefydliad a sefydlwyd gan y Cenhedloedd Unedig, sefydliad rhynglywodraethol, environmental organization |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1988 |
Prif bwnc | amrywioldeb yr hinsawdd |
Sylfaenydd | Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig |
Rhiant sefydliad | World Meteorological Organization, Rhaglen Amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig |
Pencadlys | Genefa |
Gwladwriaeth | Y Swistir |
Gwefan | https://www.ipcc.ch/, https://www.ipcc.ch/languages-2/francais/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Corff rhynglywodraethol, a rhan o'r Cenhedloedd Unedig yw'r Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd (IPCC). Ei waith yw datblygu gwybodaeth wyddonol am newid hinsawdd a achosir gan weithgareddau dynol. Sefydlwyd yr IPCC gan Sefydliad Meteorolegol y Byd (WMO) a Rhaglen Amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig (UNEP) yn 1988. Cymeradwyodd y Cenhedloedd Unedig greu'r IPCC yn ddiweddarach y flwyddyn honno. Mae'r ysgrifenyddiaeth yng Ngenefa, y Swistir, a gynhelir gan y WMO a cheir 195 o aelod-wladwriaethau sy'n ei llywodraethu.
Mae'r aelod-wladwriaethau'n ethol bwrdd o wyddonwyr i wasanaethu i asesu'r maes newid hinsawdd, fel arfer am gyfnod o rhwng chwech a saith mlynedd. Eu cam cyntaf yw dewis arbenigwyr i baratoi adroddiadau'r IPCC. Mae'n tynnu'r arbenigwyr o enwebiadau gan lywodraethau a sefydliadau arsylwi. Mae ganddyn nhw dri gweithgor a thasglu.
Mae'r IPCC yn hysbysu llywodraethau o'r wybodaeth ddiweddaraf am newid hinsawdd. Gwna hyn drwy archwilio'r holl lenyddiaeth wyddonol berthnasol ar y pwnc. Mae hyn yn cynnwys yr effeithiau naturiol, economaidd a chymdeithasol a risgiau. Ymdrinia hefyd ag opsiynau ymateb posibl. Nid yw'r IPCC yn cynnal ei ymchwil gwreiddiol ei hun. Ei nod yw bod yn wrthrychol ac yn gynhwysfawr. Mae miloedd o wyddonwyr ac arbenigwyr eraill yn gwirfoddoli i adolygu'r cyhoeddiadau ar ffurf drafft, cyn eu cyhoeddi. Maent yn crynhoi canfyddiadau allweddol yn "Adroddiadau Asesu" ar gyfer llunwyr polisi a'r cyhoedd yn gyffredinol; Mae arbenigwyr wedi disgrifio'r gwaith hwn fel y broses adolygu cymheiriaid (peer review) fwyaf ar wyneb Daear.
Mae'r IPCC yn awdurdod a dderbynnir yn rhyngwladol ar newid hinsawdd. Cymeradwyir ei waith gan wyddonwyr hinsawdd blaenllaw a phob aelod-lywodraeth. Mae'r cyfryngau, llywodraethau, sefydliadau cymdeithas sifil a busnesau yn dyfynnu ei adroddiadau'n aml. Mae adroddiadau'r IPCC yn chwarae rhan allweddol yn y trafodaethau hinsawdd blynyddol a gynhelir gan Gonfensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd (UNFCCC). Roedd Pumed Adroddiad Asesiad yr IPCC yn ddylanwad pwysig ar Gytundeb Paris yn 2015. Rhannodd yr IPCC Wobr Heddwch Nobel 2007 ag Al Gore am ei gyfraniadau at ddeall newid hinsawdd.
Yn 2015 dechreuodd yr IPCC ei chweched cylch asesu. Bydd yn ei gwblhau yn 2023. Yn Awst 2021, cyhoeddodd yr IPCC ei gyfraniad Gweithgor I i'r Chweched Adroddiad Asesu (IPCC AR6) ar sail gwyddor ffisegol newid yn yr hinsawdd. Disgrifiodd The Guardian yr adroddiad hwn fel y “rhybudd mwyaf eto” o “newid hinsawdd anochel ac anwrthdroadwy enfawr”. Roedd llawer o bapurau newydd ledled y byd yn dweud yr un peth.
Yn Chwefror 2022, rhyddhaodd yr IPCC ei adroddiad Gweithgor II ar effeithiau ac addasiadau. Cyhoeddwyd cyfraniad Gweithgor III "lliniaru newid yn yr hinsawdd" i'r Chweched Asesiad yn Ebrill 2022. Disgwylir i’r Chweched Adroddiad Asesu ddod i ben gydag Adroddiad Synthesis ym Mawrth 2023.
Rhagflaenydd yr IPCC oedd y Grŵp Cynghori ar Nwyon Tŷ Gwydr (the Advisory Group on Greenhouse Gases; AGGG). Sefydlodd tri sefydliad yr AGGG ym 1986: Cyngor Rhyngwladol yr Undebau Gwyddonol, Rhaglen Amgylchedd y Cenhedloedd Unedig (UNEP), a Sefydliad Meteorolegol y Byd (WMO). Gwaith yr AGGG oedd adolygu gwaith ymchwil wyddonol ar nwyon tŷ gwydr, a'i gynnydd. Ar y pryd, roedd gwyddoniaeth hinsawdd (hinsoddeg) yn dod yn gymlethach ac yn cwmpasu mwy o ddisgyblaethau. Nid oedd gan y grŵp bach hwn o wyddonwyr yr adnoddau i wneud y gwaith.
Lord Rees of Ludlow, the president of the Royal Society, Britain's most prestigious scientific institute, said: "The IPCC is the world's leading authority on climate change..."