Cytundeb a fwriedir rhwng yr Undeb Ewropeaidd ac Unol Daleithiau America yw TTIP neu Partneriaeth Masnachu a Buddsoddi Trawsiwerydd (Saesneg: Transatlantic Trade and Investment Partnership. Mae'r rheiny sydd y tu ôl i'r cytundeb yn hawlio y gwnaiff wella'r hinsawdd diwydiannol a masnachol ar bob ochr, ond mynn eraill y gwnaiff gynyddu pwerau corfforaethau mawr ar draul pobl gyffredin a hawliau gwledydd bychain i reoli eu hunain.
Barn UDA yw fod y cytundeb hwn yn dilyn esiampl cytundeb TTIP (Traws-Gefnfor Tawel, neu Trans-Pacific Partnership. Yn Ionawr 2015 cyhoeddodd y Comisiwn Ewropeaidd fras olwg dros y cytundeb.
Y bwriad gwreiddiol oedd arwyddo'r cytundeb cyn diwedd 2014, ond newidiwyd y dyddiad hwn i rywbryd yn ystod 2015.
Ym Mawrth 2013 daeth nifer o ymgyrchwyr at ei gilydd gan gyhoeddi datganiad ar y cyd a oedd yn galw ar y partneriaid negydu (UDA a'r UE) i drafod y cytundeb yng Nghyngres yr Unol Daleithiau a Senedd Ewrop yn ogystal ag yn llywodraethau'r gwledydd unigol a fforymau agored eraill yn hytrach nag yn guddiedig rhwng drysau clo. Argymhellwyd na ddylai eiddo deallusol fod yn rhan o'r cytundeb hwn.
Mae ISDS (Investor-state dispute settlement) yn offeryn cyfreithiol sy'n caniatáu buddsoddwr i ddod ag achos yn erbyn gwladwriaeth ble sefydlwyd (neu leolwyd) y buddsoddiad, ac sy'n analluogi gwladwriaeth y buddsoddwr i wneud affliw o ddim i'w hatal. Yn Rhagfyr 2013 daeth dros 200 o gyrff amgylcheddol, undebau llafur ac eraill at ei gilydd a chyhoeddwyd llythyr agored yn galw am gladdu'r ISDS a'i hepgor o unrhyw drafodaethau pellach. Mynegwyd y pryder mai 'stryd unffordd' oedd yr ISDS: "...a one-way street by which corporations can challenge government policies, but neither governments nor individuals are granted any comparable rights to hold corporations accountable".
Mynegwyd fod posib i'r cytundeb masnachu gael ei ddefnyddio i bwrpas amgenach, ac y gellid ei gamddehongli mewn modd dichellgar, yn enwedig y cymal sy'n amddiffyn buddsoddwr ar drael gwladwriaeth fechan.
Yn Rhagfyr 2013 rhybuddiodd Martti Koskenniemi, Athro prifysgol ym Mhrifysgol Helsinki fod y cynllun yn peryglu sofraniaeth y gwladwriaethau sy'n ei arwyddo. Rhagwelai y gallai cnewyllyn bychan o gyfreithwyr (ee yn UDA) gamddefnyddio eu grym gan erlyn cwmni un o'r gwledydd Ewropeaidd ar eu telerau nhw (yr UDA), gan hepgor deddfau lleol y wlad (ee yr Eidal neu Gymru).
Y blaid cyntaf yng Nghymru i wyntyllu'r cytundeb yma oedd Plaid Cymru pan basiwyd polisi ganddynt yn eu cynhadledd yn 2004, a nododd 'Gallai’r gwasanaethau cyhoeddus, cynnyrch bwyd o ansawdd uchel, diogelu cwsmeriaid a safonau lles gael eu dal mewn ras i’r gwaelod. Byddau’r setliad Anghydfod Buddsoddwr-Wladwriaeth (ISDS) yn caniatáu i gwmnïau i erlyn llywodraethau sydd yn mynd yn groes i'r cytundeb. Gallai hyn olygu mwy o breifateiddio a llai o bŵer i lywodraethau. Geilw’r Gynhadledd ar yr Undeb Ewropeaidd i atal yr holl drafodaethau, i gyhoeddi eu mandad trafod ac i ganiatáu archwiliad priodol o'r cytundeb gan Senedd Ewrop, Seneddau Cenedlaethol a Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Dyma'r unig ffordd y gallwn asesu a yw'r gytundeb hon yn wirioneddol er budd cenedlaethol Cymru.'
Pasiodd Cyngor Sir Gwynedd hefyd yn ei erbyn, yn 2014, gan fynegi: ‘Mae Cyngor Gwynedd yn datgan gwrthwynebiad llwyr i Bartneriaeth Fasnach a Buddsoddiad Trawsiwerydd: (TTIP: Transatlantic Trade and Investment Partnership). Cytundeb masnachu rhwng yr Unol Daleithiau ac Ewrop yw TTIP, sy’n cael eu trafod y tu ôl i ddrysau caeedig ac yn annemocrataidd. Mae TTIP yn ceisio lleihau rhwystrau rheoleiddiol i fusnesau mawr - pethau fel cyfraith diogelwch bwyd ac amgylcheddol, rheoliadau bancio a grym cenhedloedd unigol. Mae gwasanaethau fel y GIG mewn peryg’ - mae TTIP yn fandad i gwmnïau preifat gymryd gwasanaethau drosodd. Ar hyn o bryd, mae’r trafodaethau yn dal i gynnwys y GIG. Mae’r trafodaethau yn peryglu democratiaeth gan y bydd hawl gan gwmnïau preifat erlyn llywodraethau os yw polisïau’r llywodraethau hynny yn achosi colledion mewn elw. Mandad i gwmnïau mawr i gymryd yr awenau yw hwn, yn hytrach na’r system ddemocrataidd, etholedig fel sydd gennym ar hyn o bryd.
Yn ôl Gareth Clubb a Sam Lowe, Ymgyrchwyr Amgylcheddol: 'Mae’r UE wedi ei gwneud hi’n glir taw un o brif amcanion allweddol y negodiadau TTIP yw i wthio’r UDA i ostwng neu ddiddymu’r cyfyngiadau presennol ar allforio olew crai a nwy siâl. Mae’n edrych yn debygol y gallai cynnydd yn y galw gan yr UE arwain at ehangu ffracio yn yr UDA a hwyluso allforion olew o dywodydd tar, a gloddiwyd yng Nghanada ac a burwyd / cludwyd drwy’r UDA i’r UE.'