Term a ddefnyddir i ddisgrifio dinasyddion y Deyrnas Unedig yw Pobl Prydeinig neu Prydeinwyr. Mae hyn yn cynnwys dinasyddion Ynys Manaw ac Ynysoedd y Sianel, yn ogystal â thiriogaethau tramor y Deyrnas Unedig a'u disgynyddion. Mewn cyd-destun hanesyddol, mae'r term Saesneg Briton yn cyfeirio at y Brythoniaid hynafol a phobloedd brodorol eraill a oedd yn trigo ym Mhrydain i'r de o'r Forth. Mae cyfraith cenedligrwydd Prydain yn llywodraethu dinasyddiaeth a chenedligrwydd Prydeinig, a geir drwy cael eich geni yng ngwledydd Prydain neu drwy fod yn ddisgynnydd o rywun a aned yno.
Mae dinasyddiaeth Brydeinig yn bwnc dadleuol yn nifer o wledydd gwladwriaeth y Deyrnas Unedig, a chaiff ei chymysgu â chenedligrwydd yn aml. Gwrthodir y term "Prydeinig" yn llwyr gan weriniaethwyr Gogledd Iwerddon - sy'n ystyried eu hunain yn Wyddelod - a chenedlaetholwyr ac eraill yng Nghymru a'r Alban, sy'n ystyried eu hunain yn Gymry neu'n Albanwyr yn unig.