Ffrisiaid

Ffrisiaid
Friezen
Cyfanswm poblogaeth
2.3 miliwn
Ardaloedd gyda niferoedd sylweddol
Ffrisia:
Ieithoedd
Ffriseg (Ffriseg Orllewinol, Ffriseg Ogleddol, Ffriseg Ddwyreiniol), Isel Sacsoneg, Almaeneg, Iseldireg, Daneg
Crefydd
Protestaniaeth
Grwpiau ethnig perthynol
Saeson, Iseldirwyr, Almaenwyr

Pobl Germanaidd sy'n byw yn ardal hanesyddol Ffrisia ac sy'n siarad Ffriseg yw'r Ffrisiaid. Heddiw, lleolir Ffrisia yng ngogledd ddwyrain yr Iseldiroedd a gogledd orllewin yr Almaen ar lannau Geneufor yr Almaen.

Gellir ystyried "De âlde Friezen" yn anthem genedlaethol y Ffrisiaid.

Hanes

Roedd y Ffrisiaid cyntaf yn byw ar hyd yr arfordir isel ger Môr y Gogledd rhwng aber Afon Rhein yn yr Iseldiroedd ac Afon Ems yn yr Almaen, ac yn Ynysoedd Ffrisia ger arfordiroedd yr Almaen a Denmarc. Ceir y cofnod cynharaf ohonynt yn y 1g. Roeddent yn bobl forwrol, môr-ladron a masnachwyr, ac yn cadw gwartheg. Adeiladant aneddiadau ar dwmpathau gwneud (Hen Ffriseg: terp; lluosog: terpen) i warchod rhag llifogydd. Yn yr oes Rufeinig, llwyddasant i gadw draw o ddylanwadau'r Rhufeiniaid a fabwysiadwyd gan lwythau Germanaidd eraill megis y Ffranciaid, y Bwrgwyniaid, a'r Alemaniaid. Roeddynt yn debycach felly i'r Daniaid paganaidd nag yr oeddynt i lwythau'r de.

Gorchfygwyd Teyrnas Ffrisia gan y Ffranciaid yn 734 a chawsant eu troi'n Gatholigion, un o'r llwythau Germanaidd olaf i droi at Gristnogaeth. Buont yn gwrthsefyll yr ymdrechion hyn, a llofruddiwyd y cennad Boniffas ger Dokkum yn 754. Wedi buddugoliaeth Siarlymaen dros Widukind yn 785, meddianwyd holl diriogaeth y Ffrisiaid gan Deyrnas y Ffranciaid. Cytunodd y pendefigion i ildio i'r Ffranciaid ac i dderbyn defodau'r Eglwys, er i'r werin addoli'r hen dduwiau paganaidd am sawl canrif arall.

O'r 7g hyd y 10g, chwaraeodd y Ffrisiaid ran flaenllaw mewn masnach rhwng y Rheindir a gwledydd Môr y Gogledd a'r Môr Baltig. Buont hefyd yn adnabyddus am fedrusrwydd ymladd a'u ffyrnigrwydd ar faes y gad, a chawsant eu recriwtio i fyddin y Ffranciaid i frwydro'n erbyn yr Afariaid a'r Slafiaid yng Nghanolbarth Ewrop a'r Lombardiaid yng ngogledd yr Eidal. Yn sgil marwolaeth Siarlymaen yn 814, dirywiodd yr amddiffynfeydd a'r gwarchodluoedd a sefydlwyd ganddo i amddiffyn arfordiroedd ac ynysoedd y gogledd, a bu'r Ffrisiaid yn brwydro ysbeilwyr Llychlynnaidd yn y 9g. Rheolwyd tiroedd y Ffrisiaid gan frenhinoedd Denmarc o 840 i 885. Llofruddiwyd Godfrid, Dug Ffrisia yn 885, ac yn nechrau'r 10g daeth Ffrisia yn rhan o'r Ymerodraeth Lân Rufeinig ond yn meddu ar rywfaint o ymreolaeth.

Yn yr 11g dechreuodd y Ffrisiaid codi morgloddiau i amddiffyn eu hiseldiroedd rhag y môr. Brwydrodd y Ffrisiaid yn erbyn yr Holandwyr yn y 12g a'r 13g cyn uno'r tiriogaethau. Yn yr 16g ymunodd y Ffrisiaid Gorllewinol â'r Iseldirwyr yn y Gwrthryfel Iseldiraidd yn erbyn Habsbwrgiaid Sbaen, a daethant yn rhan o Weriniaeth yr Iseldiroedd (neu Daleithiau Unedig yr Iseldiroedd). Daeth y Ffrisiaid Dwyreiniol a'r Ffrisiaid Gogleddol dan reolaeth Prwsia yn y 18g a'r 19g, ac heddiw maent yn rhan o'r Almaen. Cadwodd y Ffrisiaid eu hunaniaeth ar wahân hyd ddiwedd y 19g, ond heddiw maent wedi cymhathu'n gryf â'r Iseldirwyr a'r Almaenwyr. Yr iaith Ffriseg yw'r brif nodwedd sy'n parhau i nodi hunaniaeth y Ffrisiaid.

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 1.2 Bodlore-Penlaez, Mikael. Atlas of Stateless Nations in Europe (Talybont, Y Lolfa, 2011), t. 90.
  2. Bodlore-Penlaez (2011), t. 157.
  3. Minahan, James. One Europe, Many Nations: A Historical Dictionary of European National Groups (Greenwood Publishing, 2000).
  4. 4.0 4.1 4.2 Mackenzie, John M. Peoples, Nations and Cultures: An A-Z of the Peoples of the World, Past and Present (Weidenfeld & Nicolson, Llundain, 2005), t. 333.