Diod wedi ei wneud o ddail Camellia sinensis a dŵr poeth sydd yn cynnwys caffein yw te. Gall hefyd gynnwys llysiau, ffrwythau nei sbeisiau i roi blas iddo. Yng ngwledydd Prydain, caiff ei yfed gyda llefrith/llaeth fel arfer, ac weithiau gyda siwgr, ond mewn mannau eraill mae pobl yn ei yfed heb lefrith/laeth, ac efallai gyda lemwn. Mae'r gwledydd sydd yn cynhyrchu te yn cynnwys Tsieina, India, Pacistan, Sri Lanca (a elwir yn Ceylon ar becynnau te), Taiwan (Formosa), Rwsia, Siapan, Nepal, Awstralia, Yr Ariannin a Cenia.
Mae Glengettie yn de wedi ei wneud i'r farchnad Gymreig, gydag ysgrifen Cymraeg a Saesneg ar ei focsys.
Mae mathau o de hefyd yn bodoli nad ydynt yn cynnwys dail Camellia siniensis, megis te ffrwythau.
Mathau o de
I wneud te mae'n rhaid sychu dail Camellia sinensis yn gyflym er mwyn eu rhwystro rhag ocsideiddio. Ffurf o eplesiad yw'r cam nesaf. Ar gyfer te, mae eplesiad yn golygu sychu'r dail ymhellach trwy eu cynhesu nhw. Mae pedwar math o de:
Te gwyn sydd yn cael ei wneud o ddail ifanc iawn a heb ei ocsideiddio o gwbl. Does dim llawer o gloroffyl ynddynt.
Te gwyrdd lle mae'r broses ocsideiddio wedi ei atal yn gyflym drwy cynhesu'r dail. Yn Japan, defnyddir stêm i wneud hynny, ac yn Tsieina, padell boeth.
Ŵlong (Tsieineeg: 烏龍茶/乌龙茶 wūlóngchá) sydd rhwng te gwyrdd a the du.
Te du lle mae'r broses ocsideiddio wedi parhau.
Termau cyffredin
Termau cyffredin ar gyfer te sydd yn cael eu defnyddio ar becynnau yw: