Thatcheriaeth

Term ar bolisïau Margaret Thatcher, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig (1979–90), neu ideoleg wleidyddol sy'n adlewyrchu'r fath bolisïau yw Thatcheriaeth. Mae'n crybwyll ffydd yn y farchnad rydd i ffynnu heb ymyrraeth gan y wladwriaeth. Ystyrir Thatcheriaeth yn fath o neo-ryddfrydiaeth a'r wraig ei hun yn eicon geidwadol ac yn rhywbeth o arwres i genedlaetholwyr Prydeinig.

Dan ei harweinyddiaeth, symudodd y Blaid Geidwadol o athroniaeth "Un Genedl" y Torïaid Gwlybion i syniadau radicalaidd, yn enwedig o ran y berthynas rhwng y wladwriaeth a'r economi. Ffafriodd Thatcher annibyniaeth yr unigolyn, a datganodd "does dim y fath beth â chymdeithas". Pan ddaeth i rym, daeth â therfyn i'r wleidyddiaeth gonsensws a fu'r drefn yn San Steffan ers diwedd yr Ail Ryfel Byd. Tynnai'r llywodraeth yn ôl o'i rôl yn y sector breifat, a chafodd nifer o ddiwydiannau eu preifateiddio. Gostyngodd y llywodraeth ei gwariant ar wasanaethau cymdeithasol, a dirywiodd rym a dylanwad yr undebau llafur. Dadleuodd Thatcher hefyd o blaid arianyddiaeth.

Cafodd Thatcheriaeth effaith sylweddol os nad chwyldroadol ar wleidyddiaeth, economi, a chymdeithas y Deyrnas Unedig. Bu cryn anghydfod ynglŷn â'i pholisïau trwy gydol ei llywodraeth ac yn y blynyddoedd ers hynny. Newidiodd y DU o economi ddiwydiannol i wlad â'r mwyafrif o'r llafurlu yn gweithio yn y sector gwasanaethau. Cyhuddwyd pob un o olynwyr Thatcher yn 10 Stryd Downing, hyd yn oed y prif weinidogion Llafur Tony Blair a Gordon Brown, o ddilyn ei pholisïau.

Gweler hefyd