Tom Daley yn 2012 | |
Gwybodaeth bersonol | |
---|---|
Enw llawn | Thomas Robert Daley |
Ganwyd | Plymouth, Dyfnaint | 21 Mai 1994
Taldra | 177 cm (5 ft 10 in) (5 ft 10 in) |
Pwysau | 74 kg (11 st 9 lb; 163 lb) |
Camp | |
Gwlad | Y Deyrnas Unedig Lloegr |
Camp | 10 m, 10 m synchro, 3 m |
Clwb | Clwp Plymio Plymouth / Canolfan Perfformiad Uchel Llundain |
Partner | Dustin Lance Black (p. 2017) |
Hyfforddwr/aig | Jane Figueredo |
Plymiwr a phersonoliaeth deledu Seisnig yw Thomas Robert "Tom" Daley (ganwyd 21 Mai 1994). Mae Daley yn arbenigo yn y gamp bwrdd 10 metr ac roedd yn Bencampwr y Byd ym mhencampwriaethau FINA 2009 yn yr ornest unigol pan oedd yn 15 mlwydd oed. Cychwynnodd blymio yn 7 mlwydd oed ac mae'n aelod o Glwb Plymio Plymouth. Mae wedi gwneud argraff mewn cystadlaethau cenedlaethol a rhyngwladol ers oedd yn 9 oed. Cynrychiolodd Prydain Fawr yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2008 lle'r oedd y cystadleuwr ieuengaf o wledydd Prydain, y cystadleuwr ieuengaf o unrhyw wlad tu allan i gystadlaethau nofio, a'r ieuengaf i gymryd rhan mewn rownd derfynol. Yn 2009, cyrhaeddodd Daley safle gorau ei yrfa yn rhif un yn Safleoedd Plymio Byd FINA ar gyfer y bwrdd deg metr.
Enillodd ddwy fedal aur i Loegr yng Ngemau'r Gymanwlad 2010, yn y plymio ar y cyd (synchro) 10 metr (gyda Max Brick) a'r gystadleuaeth Unigol Bwrdd 10m, ac enillodd y fedal efydd ar gyfer Prydain Fawr yn y gystadleuaeth unigol yng Ngemau'r Olympaidd 2012. Enillodd Daley a Matty Lee y fedal aur yng nghystadleuaeth plymio cydamserol yng Ngemau Olympaidd 2020 yn Tokyo.
Yn dilyn ei lwyddiant yng Ngemau'r Olympaidd 2012 a haf lle daeth chwaraeon yn boblogaidd iawn yng ngwledydd Prydain, gofynnodd y rhwydwaith deledu ITV i Daley gymeryd rhan mewn sioe realaeth newydd o'r enw Splash! yn dangos enwogion yn dysgu sut i blymio. Cychwynnodd y sioe ar 5 Ionawr 2013 gyda Daley fel mentor i'r cystadleuwyr enwog.
Ganwyd Daley yn Plymouth, Dyfnaint, yn fab i Debbie (née Selvester) a Robert Daley. Mae ganddo ddau frawd - William sydd dair blynedd yn iau, a Ben sydd pum mlynedd yn iau. Bu farw eu tad, Robert, o diwmor ar yr ymenydd ar 27 Mai 2001, yn 40 mlwydd oed. Ei arwr plymio cynnar oedd y plymiwr Canadaidd Alexandre Despatie, a enillodd aur yng Ngemau'r Gymanwlad 1998 yn 13 mlwydd oed , a'r plymiwr Seisnig Leon Taylor, a fyddai'n ei fentora yn ddiweddarach. Gwelwyd Daley gan hyfforddwr, yn cymryd rhan mewn gwersi plymio arferol, a fe'i rhoddwyd mewn sgwad gystadleuol yn Medi 2002. Ei gystadleuaeth gyntaf oedd Pencampwriaethau Cenedlaethol i Ddechreuwyr yn Ebrill 2003 lle enillodd fedal yn y categori bechgyn oed 8/9. Ym mis Medi 2003, cymerodd ran mewn digwyddiad wahoddiadol yn Southampton lle enillodd y gornestau 1 m, 3 m a byrddau, a gwnaeth ei argraff gyntaf ar gynulleidfa ehangach. Enillodd Daley ei grŵp oedran yn y Pencampwriaethau Prydeinig yn y sbringfwrdd 1 m, y sbringfwrdd 3 m, a'r bwrdd yn 2004, 2005, a 2006.
Yn Mehefin 2003, y mis ar ôl ei ddegfed pen-blwydd, enillodd y gystadleuaeth bwrdd yng ngrŵp Iau Cenedlaethol (dan 18), gan ei wneud yr enillydd ieuengaf o'r ornest honno. Yn 2005 cystadlodd Daley fel cystadleuydd gwadd yn yr Australian Elite Junior Nationals a fe'i rhoddwyd yn gyntaf yn y byrddau a'n ail yn y sbringfwrdd 3 m springboard yn yr ornest grŵp oedran 14-15. Cystadlodd hefyd yn y categori 14-16 yn yr Aachen Junior International 2005, gan ddod yn ail yn y byrddau a trydydd yn y sbringfwrdd 3 m. Cyrhaeddodd y safon cymhwyster ar gyfer Gemau'r Gymanwlad 2006, ond ni ddewiswyd ar gyfer tîm Lloegr oherwydd ei oedran. Yn 2006, roedd yn bencampwr Prydeinig dan-18 yn y byrddau a sbringfwrdd 3m, a daeth yn ail yn y bwrdd 10 m ym Mhencampwriaethau Prydeinig hŷn 2007, a gynhaliwyd yn Rhagfyr 2006.
Rhwng oed 11 a 14 mynychodd Daley Coleg Cymunedol Eggbuckland. Yn 13 oed daeth yn gefnogwr o ChildLine, llinell gymorth i blant yn cael ei redeg gan yr NSPCC, ac ar y pryd fe ddatgelwyd ei fod wedi cael ei fwlio 18 mis ynghynt. Yn Ebrill 2009, mewn cyfweliad gyda phrif bapur newydd lleol Plymouth, The Herald honnodd Daley ei fod wedi cael ei fwlio yn rheolaidd yn yr ysgol ers y Gemau Olympaidd, a dywedodd ei dad wrth y BBC ei fod wedi ei dynnu allan o'r ysgol dros dro am fod ymateb yr ysgol wedi bod yn aneffeithiol. Fe ganmolwyd Daley yn y cyfryngau am leisio barn am y broblem.
Cynigiwyd ysgoloriaeth lawn i Daley i ysgol breswyl annibynnol Coleg Brighton, ond penderfynodd ei dad yn erbyn hyn oherwydd y pellter o'u cartref, ac aeth i drafodaethau gydag ysgol annibynnol leol Coleg Plymouth, oedd wedi cynnig "ysgoloriaeth sylweddol iawn". Rhai wythnosau yn ddiweddarach, cadarnhawyd fod Daley wedi cofrestru yng Ngholeg Plymouth.
Cymerodd Daley ei gymwysterau TGAU mewn cyfnodau byr i weithio o amgylch ei ymrwymiadau plymio. Perswadiodd y model Kate Moss i eistedd am ail-gread o ddarlun gwreiddiol ohoni gan David Hockney, fel rhan o waith ffotograffiaeth TGAU yn ail-greu gweithiau mawr o gelfyddyd, ar ôl ei chyfarfod wrth dynnu lluniau ar gyfer fersiwn Eidalaidd o Vogue. Cafodd Daley un gradd A ac wyth gradd A* yn eu TGAU.
Yn 2012, cwblhaodd ei astudiaeth dwy flynedd Lefel A mewn mathemateg, Sbaeneg a ffotograffiaeth. Penderfynodd Daley i beidio gymeryd cwrs Bagloriaeth Ryngwladol oherwydd y pwysau oedd yn wynebu wrth baratoi ar gyfer Gemau Olympaidd 2012. Derbyniodd A* yn ei lefel A ffotograffiaeth, ac A yn Sbaeneg a mathemateg.
Ar 2 Rhagfyr 2013, ryddhaodd Daley fideo YouTube yn cyhoeddi ei fod mewn perthynas gyda dyn ers ynghynt yn y flwyddyn, gan ddatgan "Rwy' erioed wedi bod yn hapusach." Dywedodd Daley ei fod wedi bod yn benderfyniad anodd i siarad am ei fywyd preifat. Dywedodd: "Doeddwn i erioed wedi cael y teimlad o gariad, fe ddigwyddodd e mor gyflym. Roeddwn i wedi cael fy ysgubo gan y peth i'r graddau fel nad wy'n gallu cael e allan o fy mhen drwy'r amser." Ei ddyweddi yw'r sgriptiwr, cyfarwyddwr a chynhyrchydd Americanaidd Dustin Lance Black. Maent yn byw gyda'i gilydd yn Llundain.
Yn 2014, roedd Daley yn rhif 3 ar y rhestr 'World Pride Power'. Mae Daley wedi gwneud datganiadau anghyson ynglŷn â'i rywioldeb. Ar ôl ei ddatganiad fideo ar YouTube, dywedodd ei fod yn ddyn hoyw. Yn ddiweddarach, mewn cyfweliad gyda The Guardian, yng Ngorffennaf 2015 gofynnwyd a oedd yn ddeurywiol, a dywedodd Daley : "I don’t put a particular label on any of it because right now I’m in a relationship with a guy, but I still have sexual feelings towards girls." Pan ofynnwyd iddo am ddod i delerau gydaG atyniad cyfunrywiol a'i berthynas a Black, dywedodd ei fod wedi ei atynnu at ddynion erioed a'i fod "yng nghefn ei feddwl erioed... Doeddwn i erioed wedi cael teimladau o'r math yna at berson. Roeddwn i wedi bod mewn perthynas gyda merched lle'R oedd gen i deimladau rhywiol, ond daeth hyn yn llawer dwys pan wnes i gyfarfod Lance."
Ar 1 Hydref 2015, cyhoeddwyd yn The Times fod Daley a Black wedi dyweddïo. Roedd y cyhoeddiad yn darllen: "The engagement is announced between Tom, son of Robert and Debra Daley of Plymouth, and Lance, son of Jeff Bisch of Philadelphia and Anne Bisch of Lake Providence."
Yn Awst 2014, roedd Daley yn un o 200 ffigwr cyhoeddus i arwyddo llythyr yn The Guardian yn gwrthwynebu annibyniaeth i'r Alban yn y cyfnod cyn y refferendwm ar y pwnc ym mis Medi.
Mae Daley wedi bod yn weithgar iawn yn y cyfryngau. Mae ei galendrau blynyddol wedi bod yn boblogaidd iawn gyda'r cyhoedd.
Mae Daley yn weithgar iawn ar y cyfryngau cymdeithasol gan ymddangos ar ei sianel YouTube am nifer o flynyddoedd. Yn ogystal â defnyddio ei sianel YouTube i ddod allan am ei berthynas cyfunrywiol gyda Dustin Lance Black, mae wedi ymddangos mewn nifer o fideos pellach gyda Black, a nifer o fideos ar bynciau eraill hefyd. Mae cyfresi poblogaidd yn cynnwys "Tom Dives Into..." yn 2015 a "The Daley Diary" yn 2016.
When Thomas Robert Daley dives...
|deadurl=
ignored (help)
|work=
(help)