Athrawiaeth Monroe

Athrawiaeth Monroe
Enghraifft o'r canlynolathrawiaeth arlwyddol yr Unol Daleithiau, athrawiaeth polisi tramor Edit this on Wikidata
CrëwrJohn Quincy Adams Edit this on Wikidata
Rhan oLatin America–United States relations Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1823 Edit this on Wikidata
Lleoliad cyhoeddiWashington Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Athrawiaeth bwysig ym mholisi tramor yr Unol Daleithiau yw Athrawiaeth Monroe a ddatganwyd gyntaf gan yr Arlywydd James Monroe (1817–25) yn ei anerchiad blynyddol i'r Gyngres ar 2 Rhagfyr 1823. Nod yr athrawiaeth yw atal ymyrraeth gan wledydd Ewrop yng nghyfandiroedd yr Amerig. Yn ei araith, fe luniodd Monroe bedwar pwynt polisi: ni fyddai Unol Daleithiau America ym ymyrryd â materion mewnol neu ryfeloedd Ewrop; byddai UDA yn cydnabod y trefedigaethau Ewropeaidd oedd wedi eu sefydlu'n barod yn yr Amerig a ni fyddai'n ymyrryd â'r tiriogaethau hynny; ni fyddai UDA yn cydnabod trefedigaethau newydd yn yr Amerig; a byddai llywodraeth UDA yn Washington yn ystyried yn weithred elyniaethus unrhyw ymgais gan yr Ewropeaid i orthrymu neu orchfygu unrhyw wlad yn yr Amerig.

Yn nechrau'r 19g enillodd sawl rhan o America Sbaenaidd annibyniaeth ar Ymerodraeth Sbaen, a'r bobloedd yn y tiroedd hynny wedi eu hysbrydoli gan y chwyldroadau gweriniaethol yn Ffrainc ac UDA. Roedd yr Americanwyr yn pryderu bod gwledydd Ewropeaidd am ail-sefydlu neu ehangu eu hymerodraethau yn yr Amerig, yn enwedig Sbaen ym Mecsico a De America a Rwsia yng Ngogledd America. Ar y cyfan, roedd Prydain Fawr am fasnachu â'r gweriniaethau newydd yn hytrach na cheisio'u concro, ac felly awgrymodd yr Ysgrifennydd Tramor George Canning i Brydain ac UDA gytuno yn erbyn rhagor o drefedigaethu gan wledydd Ewrop yn yr Amerig. Mynnai datganiad unochrog Americanaidd gan John Quincy Adams, Ysgrifennydd y Wladwriaeth dan Monroe, ac felly lluniwyd yr araith i'r Gyngres.

I ddechrau, effaith gyfyng iawn a gafodd yr athrawiaeth. Roedd Monroe a Adams ill dau yn ymwybodol o ddibyniaeth eu gwlad ar y Llynges Frenhinol i batrolio dyfroedd yr Amerig. Ni chafodd yr athrawiaeth ei galw i rym gan Washington yn erbyn yr Ymerodraeth Brydeinig yn y 1930au, er i'r Prydeinwyr cipio Ynysoedd y Falklands ac ymosod ar diroedd yn Ne America. Yn ddiweddarach, rhybuddiodd yr Arlywydd James K. Polk Sbaen a Phrydain yn erbyn ehangu eu tiriogaeth yng Ngogledd America.

Wrth i rym milwrol UDA gynyddu yn niwedd y 19g, daeth gwleidyddion Americanaidd i ystyried yr athrawiaeth fel mynegiant taw eu maes dylanwad hwy oedd holl diroedd yr Amerig. Ym 1904, ychwanegodd yr Arlywydd Theodore Roosevelt (1901–09) yr hyn a elwir Atodiad Roosevelt at yr athrawiaeth. Mae'r polisi hwn yn dadlau dros hawl yr Americanwyr i blismona anghydfodau rhwng gwledydd bychain yn yr Amerig a gwledydd Ewrop. Defnyddiwyd hyn i gyfiawnhau goresgyniadau gan luoedd Americanaidd yng Nghiwba (1906–09), Nicaragwa (1912–33), porthladd Veracruz ym Mecsico (1914), Haiti (1915–34), a Gweriniaeth Dominica (1916–24).

Er y dadleuai taw athrawiaeth wrth-imperialaidd yw Athrawiaeth Monroe, mae nifer yn ei beirniadu fel esgus i Washington ymddwyn fel grym ymerodrol dros wledydd eraill yr Amerig. Mae'r CIA wedi ymyrryd mewn gwleidyddiaeth sawl gwlad yn America Ladin, gan gynnwys Gwatemala (1954), Ciwba (1961), a Tsile (1973). Lansiwyd goresgyniadau yn Grenada (1983) a Phanama (1989) i newid llywodraeth yn y gwledydd hynny.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. (Saesneg) Monroe Doctrine. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 19 Mai 2018.
  2. Christopher Abel, "Monroe Doctrine" yn Thomas Benjamin (gol.), Encyclopedia of Western Colonialism since 1450, cyfrol 1 (Farmington Hills, Michigan: Thomson Gale, 2007) t. 807.

Darllen pellach

  • Collin, Richard H. Theodore Roosevelt's Caribbean: The Panama Canal, the Monroe Doctrine, and the Latin American Context (Baton Rouge: Louisiana State University Press, 1991).
  • Perkins, Dexter. A History of the Monroe Doctrine (Boston: Little, Brown, 1955).