Belgiaid Almaeneg

Belgiaid Almaeneg
Enghraifft o'r canlynolcymuned yng Ngwlad Belg Edit this on Wikidata
Rhan oGwlad Belg Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1984 Edit this on Wikidata
Map
Enw brodorolOstbelgien Edit this on Wikidata
GwladwriaethGwlad Belg Edit this on Wikidata
RhanbarthGwlad Belg Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://ostbelgienlive.be Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Grŵp ethno-ieithyddol sydd yn hanu o ddwyrain Gwlad Belg, ar y ffin â'r Almaen yn ardal yr Ardennes ac yn ardal Felgaidd Lorraine ar y ffin â Lwcsembwrg, ac yn siarad Almaeneg yw'r Belgiaid Almaeneg.

Rhennir tiriogaeth y Belgiaid Almaeneg yn ddwy ardal a chanddynt hanes tiriogaethol gwahanol. Yn nhalaith Luxembourg yn ne-ddwyrain y wlad mae'r ardal a elwir gynt yn "yr Hen Felg Almaeneg", sydd yn cynnwys 22 o ddosbarthau o amgylch dinas Arlon (Arel). Daeth yn rhan o Wlad Belg adeg ffurfio'r deyrnas yn 1830. Siaradwyr Almaeneg a Lwcsembwrgeg oedd y trigolion yn hanesyddol, a chawsant eu cymhathu â'r Walwniaid i raddau helaeth erbyn yr 20g.

Yng ngogledd-ddwyrain Walonia mae'r hyn a elwir gynt yn "Felg Almaeneg Newydd", sef y 34 o ddosbarthau o amgylch Eupen, Malmédy, a Saint Vith yn nhalaith Liège. Bu'r isoglos yma rhwng siaradwyr Lladinaidd (Ffrangeg) a siaradwyr Germanaidd (Almaeneg) mwy neu lai yn gyson ers oes y Rhufeiniaid. Cafodd y cantonau yma, a oedd ym meddiant Prwsia ac yna Ymerodraeth yr Almaen ers 1815, eu rhoddi i Wlad Belg yn 1919 yn ôl telerau Cytundeb Versailles. Bu'r bobl hon yn cadw at eu cenedligrwydd Almaenig, yn wahanol i drigolion Arlon, ac yn gwrthwynebu ymdrechion y Walwniaid i'w Ffrengigo. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cafodd lluoedd yr Almaen eu croesawu gan nifer o drigolion, ac ymunodd 8700 o ddynion yr ardal â'r Wehrmacht.

Yn y 1960au, dechreuwyd ar y broses o gydnabod statws yr iaith Almaeneg yng nghantonau Eupen a Malmédy, a'i defnyddio yn y system addysg, y llysoedd barn, a gweinyddiaeth gyhoeddus. Yn 1984, sefydlwyd Cymuned Almaeneg Gwlad Belg, neu Ddwyrain Gwlad Belg, un o dair cymuned ffederal yn y wladwriaeth, ac yn meddu ar senedd a llywodraeth ei hun. Mae'r mwyafrif helaeth o'r trigolion yn ystyried eu hunain yn Felgiaid, ond nid yn Walwniaid. Nid yw Belgiaid Almaeneg yn nhalaith Luxembourg yn rhan o'r Gymuned Almaeneg swyddogol, ac mae defnydd yr iaith Almaeneg yn dirywio yn yr ardaloedd hynny.

Cyfeiriadau