Caws o Ffrainc yw Roquefort. Mae'r caws lliw glas neu wyrdd hwn yn cael ei wneud o laeth dafad. Mae traddodiad hir o gynhyrchu caws Roquefort. Roedd y Rhufeiniaid yn gwybod am Roquefort; cyfeiriodd Plinius yr Hynaf at gaws o'r fath yn 79 CC. Yn ardal Aveyron mae'r Roquefort go iawn yn cael ei gynhyrchu. Gellir ei fwyta gyda seleri neu fara brown.